Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!

Gan | 12/11/2019

Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio!

Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle i barhau i gyfrannu.

Bydd brawddegau newydd o bob math yn ymddangos ar wefan Common Voice Cymraeg o bryd i’w gilydd a’n bwriad yw parhau i ddatblygu’r maes nes bod gennym yr adnoddau angenrheidiol i ddarparu technoleg llais ymarferol yn Gymraeg.

Mae adnoddau i gefnogi Common Voice Cymraeg ar gael yma ar wefan Meddal.com.

Dyfal donc…

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .