Android yn Gymraeg

Gan | 07/03/2019

Mae Android nawr ar gael yn Gymraeg ar eich ffôn!

Mae’r freuddwyd o gael Android yn Gymraeg wedi ei gwireddu bron yn llwyr diolch i ymdrechion gwirfoddol Aled Powell. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi ei seilio ar LineageOS ac mae’n rhaid fflachio ROM LineageOS ar i ffôn sy’n cael ei gefnogi gan y system. Mae LineageOS yn fenter i redeg Android fel system cod agored llwyr y tu allan i grafangau Google. Mae dal modd rhedeg apiau Google arno.

Mi gyhoeddodd @AledPowell y gwaith ar Trydar ar 4ydd o Fawrth wrth i fersiwn 16.0 o LineageOS gael ei lansio ac mae’r lluniau mae wedi eu darparu yn seiliedig ar hwnnw ac yn rhedeg ar Samsung S5. Felly mae modd diweddaru eich ffôn i’r fersiwn diweddaraf o Android 9.0, Pie a chael rhyngwyneb Cymraeg. Gwych!

Dyma’r lluniau sgrin…

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae modd i mi gadarnhau fod hyn hefyd yn gweithio ar Google Nexus 4 sydd gen i, ac mae’r canlyniadau’n debyg iawn i’r uchod er nad yw ROM 16.0 ar gael ar gyfer y ffôn ar hyn o bryd, dim ond 15.1, sef Android 8.1.

I gydnabod maint gwaith Aled mae’r cyfrif ar gwefan lleoleiddio LineageOS yn nodi ei fod wedi cyfieithu dros 146 o filoedd o eiriau – ie 146,000+. Anhygoel!

Diolch yn fawr iawn i ti Aled am dy ymdrechion.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .