Common Voice Cymraeg nawr ar Microsoft Edge

Gan | 17/01/2019

Hyd yma dim ond ar Firefox a Google Chrome mae Common Voice Cymraeg wedi bod ar gael. Heddiw, mae Mozilla wedi cyflwyno newidiadau i’r wefan sy’n golygu ei fod ar gael ar Microsoft Edge y porwr Cymraeg sydd gan Microsoft yn Windows 10.

Mae rhai sefydliadau yn cyfyngu eu dewis o borwr i offer Microsoft gan gynnwys Internet Explorer ac Edge. Fydd Common Voice er hynny ddim yn gweithio yn Internet Explorer oherwydd diffygion technolegol y porwr.

Felly, os ydych yn ddefnyddiwr Edge hapus, mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu

Os yw eich man gwaith yn defnyddio Edge, mae modd gofyn iddyn nhw greu ymgyrch ymhlith staff i gasglu lleisiau. Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn gwneud defnydd o dechnoleg llais yn y dyfodol felly mae cyfrannu tuag at Common Voice yn fantais iddyn nhw.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .