Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau.

Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen.
Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu lleisiau ac yna recordio eich llais eich hun.
Ymateb Aled oedd, Dowch bobl, gallwn ni wneud hyn!
Beth amdani, am y tro cyntaf neu wedi gwneud o’r blaen – ymlaen! 🙂