LibreOffice 6.1

Gan | 06/09/2018

Cafodd LibreOffice 6.1 ei ryddhau yn ystod mis Awst ac yn cynnwys nifer o welliannau wedi eu hawgrymu gan y gymuned.

Mae modd gweld gwybodaeth am y newidiadau hyn ar wefan LibreOffice Cymraeg. Mae’n cynnwys newid i thema rhyngwyneb LibreOffice. Mae trin delweddau wedi ei wella, gan wneud y rhaglen yn gynt a mwy ymatebol, tra bod graddiannau llanw, ffeiliau cymorth a rhyngwyneb cyfieithu ffeiliau newydd yn golygu mai hwn yw’r LibreOffice gorau erioed.

Er mwyn llwytho i lawr copi o LibreOffice ewch i cy.libreoffice.org  ac yna dewis y tab Llwytho i Lawr a’r fersiwn rydych am ei lwytho i lawr.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .