Joomla!

Gan | 06/03/2018
System rheoli cynnwys safonol ar gyfer creu safleoedd gwe syml neu gymhleth yw Joomla!. Yn addas ar gyfer sefydliadau bach a mawr.

Mae modd ymestyn Joomla! drwy gannoedd o estyniadau (rhad neu fasnachol) i ganiatáu creu pob math o wefannau. Mae enghreifftiau i’w gweld yma:

 

Popeth Cymraeg (www.popethcymraeg.cymru)

Bys a Bawd, Llanrwst (www.bysabawd.cymru)

Gwefr Heb Wifrau (www.gwefrhebwifrau.cymru)

 

Mae Joomla! fel arfer yn cael ei ystyried yn ychydig yn fwy cynhwysfawr na WordPress ond angen ychydig fwy o ddealltwriaeth technegol i’w ddefnyddio.  Yn hyn o beth mae’n sefyll rhwng WordPress a Drupal.

Mae’r deunydd Cymraeg ar gyfer Joomla i’w cael o’u gwefan neu wrth osod Joomla.

Cyfieithiad: Tîm Cyfieithu Joomla! Yn seiliedig ar waith blaenorol gan Ifan Evans, Lynton Web Design a Chyngor Sir Powys.

Sylwer: Bu cyfnod pan oedd y cyfieithiad Cymraeg swyddogol yn gywilyddus o wael.  Roedd hynny tua 2012 ar gyfer Joomla 2.5 (er fod fersiwn da ar gael gan Cyngor Sir Powys).  Adferwyd y sefyllfa yn 2014 gyda phecyn Cymraeg ar gyfer Joomla 3 oedd yn adeiladu ar waith da y gorffennol.  Os ceisioch chi ddefnyddio Joomla yn ystod y cyfnod hynny yna mae’n werth cael golwg arall arno.

Gellir cysylltu a thîm cyfieithu Joomla ar cyfieithu@joomla.cymru.  Mae gwefan gan y tîm ar www.joomla.cymru

Bydd y tîm yn falch o glywed gan unrhyw un sy’n gallu helpu gyda’r cyfieithu neu dim ond gadael iddynt wybod eich bod yn defnyddio Joomla Cymraeg neu’n awyddus i ddechrau.

Mae’r Tîm yn ymdrechu i gadw’r cyfieithiad yn gyfoes gyda fersiynau Joomla.  Ers fersiwn 3.9.17 (Ebrill 2020) Mae’r cyfieithiad yn gyfieithiad llawn ar gyfer y wefan flaen a’r wefan weinyddol.

Nod y tîm hefyd yw cyfieithu rhai estyniadau.  Mae estyniad siopa ar-lein yn barod ar gael yn Gymraeg (J2Store).

Diolch

Dyfrig Berry

Cyd-gysylltydd Cymraeg Joomla!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .