Archifau Categori: Gwefannau

Firefox Relay

Gwasanaeth newydd i’ch diogelu’ch e-bost a’ch hunaniaeth ar-lein yw Firefox Relay. Mae’n cael ei gynnig gan Mozilla, gwneuthurwyr Firefox a hyrwyddwyr Common Voice. Sut mae’n gweithio? – ar gyfer mewngofnodi i wefannau amheus mae modd defnyddio arallenw neu alias drwy wasanaeth Relay yn lle eich cyfeiriad e-bost go iawn. Mae’n well cadw eich e-bost go… Darllen Rhagor »

Joomla! 4.0

Mae Joomla! yn System Reoli Cynnwys poblogaidd ar gyfer creu gwefannau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn becyn llawn o safbwynt y defnyddiwr a’r gweinyddwr.  Os nad ydych wedi defnyddio Joomla o’r blaen neu heb wneud ers sawl blwyddyn beth am roi cynnig arni?  Rhyddhawyd pecyn Cymraeg Joomla 4 ar Awst 17eg, yr un diwrnod a Joomla… Darllen Rhagor »

WordPress 5.8 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Tri Phwerdy Hanfodol Rheoli Teclynnau gyda Blociau Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r… Darllen Rhagor »

WordPress 5.7 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich… Darllen Rhagor »

Swyddfa Gefn Umbraco ar gael yn Gymraeg

Mae gan Owain Jones ddisgrifiad o’r broses o osod y cyfieithiad Cymraeg o Umbraco ym mlog Method4. Beth yw Umbraco? Mae Umbraco yn system rheoli cynnwys hyblyg a hawdd golygu cynnwys o’i fewn ar gyfer gwefannau. Mae’n god agored ac mae modd ei ddefnyddio am ddim neu dalu i gael cefnogaeth a gwesteia o fewn… Darllen Rhagor »