Archifau Categori: Llais

Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!

Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio! Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle… Darllen Rhagor »

@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg yn yr Eisteddfod

Bydd gan ymgyrch Common Voice bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod eleni. Dewch draw i stondin Common Voice Cymraeg sydd o dan ofal Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dewch i glywed am y datblygiad diweddaraf ym myd technoleg llais yn y Gymraeg! voice.mozilla.org/cy

Y Cynulliad Cenedlaethol yn Cefnogi Common Voice Cymraeg

Mae’r Cynulliad wedicyhoeddi trydariadau i gefnodi ymgyrch casglu lleisiau i Common Voice. @CynulliadCymru a @AssemblyWaes Rydyn ni wedi bod yn helpu@mozilla efo’u prosiect #commonvoice. Beth yw Common Voice? Cliciwch yma ((link: http://socsi.in/OXFms) socsi.in/OXFms) i ddarganfod a gweld sut gallwch chi gynorthwyo datblygu technoleg llais-i-destun Cymraeg.

700 yn cefnogi Common Voice!!

Rydym wedi cyrraedd 700 o gyfranwyr! Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. 🙂 Ar hyn o bryd mae gennym 40 awr o ddata wedi ei ddilysu a 47 awr wedi ei recordio. Felly, mae angen parhau i recordio gymaint ag y bo modd ac i wrando a dilysu lleisiau, os gwelwch chi’n… Darllen Rhagor »

Fideo Gwrando ar leisiau ar Common Voice Cymraeg

Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg.   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!