Archifau Categori: Porwyr

Cystadleuaeth Fideo Firefox

Mae Firefox yn rhedeg cystadleuaeth fideo 16 eiliad Firefox Fights for You ym mhob iaith posib. Byddai’n grêt cael rhai Cymraeg – beth amdani! Manylion creu’r fideo a’r testun: https://events.mozilla.org/firefoxfightsforyoucampaign

Firefox Monitor

Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg – Siarad

Common Voice yw’r cyfle gorau ar hyn o bryd i sicrhau fod y Gymraeg yn mynd i gael ei ddeall gan beiriannau digidol yn y dyfodol. Mae trwydded Common Voice yn un agored, sy’n golygu ei fod ar gael i ddatblygwyr bach a mawr i wneud defnydd ohonon. Po fwyaf o leisiau ac acenion sydd… Darllen Rhagor »

Joomla!

System rheoli cynnwys safonol ar gyfer creu safleoedd gwe syml neu gymhleth yw Joomla. Mae’n addas ar gyfer sefydliadau bach a mawr. Mae modd ymestyn Joomla drwy gannoedd o estyniadau (rhad neu fasnachol) i ganiatáu creu pob math o wefannau. Mae Joomla fel arfer yn cael ei ystyried yn ychydig yn fwy cynhwysfawr na WordPress… Darllen Rhagor »

Firefox Focus iOS

Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a’r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall. Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw’n cael eu tracio na’u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae’r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu’r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.… Darllen Rhagor »

Deall yn Well

Mae Mozilla wedi cychwyn cyhoeddi cyfres cymorth i ddiogelu defnyddwyr  ar y we o dan y teitl Deall yn Well, gan gychwyn gyda Tracio. Mae’r cynnwys yn amlygu beth yw tracio a sut mae cwmnïau ar y we, gan gynnwys trydydd partïon, yn gwneud defnydd o’r data rydym yn ei adael ar ein hôl. Mae’n… Darllen Rhagor »