Archifau Categori: Ffonau Symudol
Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!
Mae’r ap Profi ac Olrhain Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nawr ar gael yn Gymraeg. Yn y fersiynau blaenorol, roedd ar gael ar sail iaith system y ffôn neu ddewis iaith yn y fersiynau diweddaraf o’r iPhone ac Android. Roedd modd i mi ei osod yn Gymraeg yn ddiweddar ar ffôn yn rhedeg fersiwn Cymraeg… Darllen Rhagor »
Fairphone 3 /e/OS yn Gymraeg
Mae’r Fairphone 3 yr /e/Foundation yn rhedeg fersiwn o Android heb Google (/e/OS) ac yn cynnig amgylchedd agored a diogel. Mae modd dewis y Gymraeg fel iaith y rhyngwyneb drwy’r Gosodiadau. Mae’r pecyn /e/Foundation hefyd yn cynnwys adnodd calendr, e-bost, man cadw dogfennau, lluniau a cherddoriaeth ac ati ar sail NextCloud. Dyw’r rhain ddim ar… Darllen Rhagor »
Firefox Preview – ar ei ffordd
Firefox Preview yw porwr symudol nesaf Firefox ar gyfer dyfeisiau Android. Bydd yn cynnwys elfennau poblogaidd a defnyddiol Firefox ar gyfer y bwrdd gwaith – cyflymder, diogelwch a’r gallu i osod ychwanegion. Ar hyn o bryd mae’n cael ei ddatblygu ond mae modd ei brofi drwy lwytho i lawr Firefox Preview neu’r fersiwn Nightly. Fel… Darllen Rhagor »
Scratch 3 – y Scratch newydd!
Mae Scratch wedi ei anelu at alluogi pobl ifanc o bob oed i raglennu eu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol eu hunain – a rhannu eu creadigaethau gydag eraill yng nghymuned ar-lein Scratch. Mae Scratch 3 yn cynnwys amryw o welliannau gan gynnwys, mae’n gweithio ar dabledi, estyniadau ar gyfer estyn galluoedd Scratch, gwell golygu… Darllen Rhagor »
Firefox Focus newydd
Mae fersiwn newydd o Firefox Focus wedi ei ryddhau ac ar gael o Google Play a’r AppStore. Mae’r porwr syml a diogel wedi cael ei ddiweddaru gan ychwanegu nodweddion defnyddiol newydd. Canfod yn y Dudalen (Android yn unig) – er mwyn hwyluso chwilio am eitemau. Mae modd gwneud hyn ar wefan lawn, nid un… Darllen Rhagor »
Firefox Android 45
Firefox Android yw’r porwr Android mwyaf cyfaddasadwy. Yn gyflym, clyfar a diogel mae porwr syddogol Firefox ar gyfer dyfeisiau Android yn cynnig mwy fyth o ffyrdd i wneud eich profiad pori’r we yn addas i chi. Nodweddion newydd *Cliciwch i weld delweddau, er mwyn rheoli’r defnydd o ddata ar ffonau symudol, o dan ddewislen Gosodiadau>… Darllen Rhagor »
WordPress Android 5.1.1
Mae WordPress Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan ei gwneud yn haws i greu a darllen cynnwys. Gallwch ysgrfiennu, golygu a chyhoeddi cofnodion i’ch gwfan, gwirio eich ystadegau a chael eich ysbrydoli gan gofnodion gwych y y Darllenydd. Mae’r diweddariad yma’n gwella’r ffordd mae’r ap yn ymateb i orchmynion mewn adrannau… Darllen Rhagor »
WordPress iOS ar gael yn Gymraeg
Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch. Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress. Dyma’r cyflwyniad swyddogol: Mae ysbrydoliaeth yn… Darllen Rhagor »
Firefox iOS yn Gymraeg
Os ydych yn ddefnyddiwr iPhone, iPad, iPod touch byddwch yn falch o ddeall fod Firefox iOS nawr ar gael o App Store Apple. Mae Firefox iOS yn caniatáu i chi gymryd eich hoff borwr gyda chi lle bynnag fyddwch yn mynd. Mae’n cynnwys nodweddion poblogaidd – chwilio… Darllen Rhagor »