Archifau Categori: Newyddion

Adnoddau Codio yn Gymraeg

Dyma restr o rai o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio yn Gymraeg ac i godio yn Gymraeg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddeunydd Scratch, Kodu, Python, ac ati. Hefyd, mae gwybodaeth am yr pyrth gwybodaeth sydd ar gael sy’n cynnwys meddalwedd codio Cymraeg. Mae’r rhestr wedi ei llunio gan Gareth Morlais o Uned y… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg ar y Radio!

Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau. Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen. Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19 “Tara” Cinnamon

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd yn cael ei gynnal tan… Darllen Rhagor »

Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd

*Diweddariad* – Cafodd y ddeddfwriaeth ei wrthod. Bydd yn dod nôl i’r Senedd Ewropeaidd ym mis Medi 2018 wedi’i adolygu. Gw erthygl yn Wired Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol y bydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg ymhen rhai dyddiau yn pleidleisio ar gyfraith hawlfraint newydd all wneud niwed sylfaenol i’r rhyngrwyd yn Ewrop. Mae’r neges… Darllen Rhagor »

Ubuntu 18.4 LTS – Bionic Beaver

Croeso i Ubuntu 18.04 – y fersiwn diweddaraf o’r system weithredu poblogaidd Linux. Mae’r newidiadau yn cynnwys defnyddio bwrdd gwaith GNOME yn lle Unity, er, mae yn edrych yn weddol debyg. Mae’n cynnwys cnewyllyn Linux 4.15; Xorg fel y gweinydd dangosydd rhagosodedig, yn lle Wayland; cefnogaeth i emojis lliw (*y nodwedd pwysicaf un* 😉 );… Darllen Rhagor »