Archifau Categori: Newyddion

Y Microsoft Edge Newydd :-)

Diweddariad *Mae modd diweddaru i’r Microsoft Edge newydd a defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg* Diolch i wefan cymorth Microsoft GB mae rhyngwyneb Cymraeg ar yr Edge newydd. Dyma sut mae ei gael i weithio: Mynd i Settings (clicio ar y byrgyr)>Language>Add language > Dewis y Gymraeg, yna clico ar y Tri dot > Display Microsoft Edge in… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19.3

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Darllen Rhagor »

WordPress 5.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd. Dyma’r cyflwyniad: Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!

Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio! Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu a’ch cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle… Darllen Rhagor »

@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.… Darllen Rhagor »

Y Cynulliad Cenedlaethol yn Cefnogi Common Voice Cymraeg

Mae’r Cynulliad wedicyhoeddi trydariadau i gefnodi ymgyrch casglu lleisiau i Common Voice. @CynulliadCymru a @AssemblyWaes Rydyn ni wedi bod yn helpu@mozilla efo’u prosiect #commonvoice. Beth yw Common Voice? Cliciwch yma ((link: http://socsi.in/OXFms) socsi.in/OXFms) i ddarganfod a gweld sut gallwch chi gynorthwyo datblygu technoleg llais-i-destun Cymraeg.

WordPress 5.2

Gwaith pellach ar ddatblygu dull newydd o weithio WordPress drwy gyfrwng blociau. Mae’r pwyslai y tro yma ar gadw’r wefan yn ddiogel ac yn iach. Croeso i WordPress 5.2 Llongyfarchiadau ar ddiweddaru i WordPress 5.2! Mae’r diweddariad hwn yn ei gwneud yn haws nag erioed i drwsio’ch gwefan os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Cadw’ch… Darllen Rhagor »

WordPress 5.1

Mae WordPress ar garlam i gael y golygydd newydd “Gutenberg” yn ei le yn ddiogel ac yn gweithio’n dda. Dyma ail ran o’r datblygiad a bydd rhan arall yn cyrraedd ddiwedd Ebrill, gyda WordPress 5.2. Bosib bydd rhai ohonon ni’n cadw at yr hen drefn nes bod y drefn newydd i gyd yn ei le… Darllen Rhagor »