Archifau Categori: Swyddfa

Casgliad o raglenni swyddfa sy’n cyfateb yn fras i Microsoft Office

WordPress 7.0 Newydd

Mae LibreOffice wedi ryddhau eu fersiwn diweddaraf o’r pecyn swyddfa. Dyma’r cyflwyniad i’r newidiadau: LibreOffice 7.0 yw ein fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Technoleg flaengar a chydnawsedd Diweddarwyd OpenDocument, fformat ffeil brodorol LibreOffice i fersiwn 1.3. Mae llawer o welliannau hefyd… Darllen Rhagor »

Thunderbird 68 – beth sy’n newydd

Mae Thunderbird 68.5.0 wedi ei ryddhau gyda nifer o nodweddion newydd a diweddariadau diogelwch. Mae’r rhaglen yn cynnig nodwedd rheoli e-byst, calendr a rheolwr tasgau all-lein. Mae modd trefnu iddo reoli nifer o gyfrifon e-byst ar-lein er mwyn eu diogelu all-lein. Mae’r Thunderbird newydd eisoes ar gael drwy’r system diweddaru a hefyd drwy wefan Cymraeg… Darllen Rhagor »

Newyddion Common Voice, Ionawr 2020

Cyfraniadau Erbyn hyn mae gwefan Common Voice Cymraeg wedi casglu 79 awr o recordiadau gyda 61 awr wedi eu dilysu. Hyd yma mae 1163 o bobl wedi cyfrannu. *Mae dal angen parhau i gyfrannu, felly rydym yn gofyn i chi gyfrannu ac annog teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr, sefydliadau a chwmnïau i gyfrannu.* Byddai’n dda gallu cynyddu’r… Darllen Rhagor »

LibreOffice 6.4

Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau yn cynnwys nifer o nodweddion newydd. Dyma’r manylion: Gweithiwch yn gynt, gyda mathau amrywiol o ffeiliau Mae cydnawsedd â Microsoft Office wedi ei wella’n sylweddol, yn arbennig ar gyfer ffeilia DOCX, PPTX ac Excel 2003 XML. Yn y cyfamser, yn Calc, mae’r perfformiad wedi gwella ar gyfer… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19.3

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Darllen Rhagor »

LibreOffice 6.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau! Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer… Darllen Rhagor »

LibreOffice 6.2

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw’r Bar Adnoddau newydd sy’n cynnig dull amgen o ddefnyddio’r rhyngwyneb. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Croeso i’r Bar Adnoddau! Mae LibreOffice 6.2 yn cynnwys cynllun rhyngwyneb defnyddiwr newydd – dewisol – o’r enw’r Bar Adnoddau.. Mae’n uno’r barau offer… Darllen Rhagor »

LibreOffice 5.3

          Heddiw, mae fersiwn diweddaraf o LibreOffice yn cael ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru. Mae rhagor o wybodaeth ar LibreOffice i’w cael oddi ar eu gwefan Cymraeg. Nodweddion Newydd LibreOffice 5.3 Mae LibreOffice 5.3 yn llawn o nodweddion a diweddariadau newydd y mae modd eu defnyddio ar draws y pecyn. Gall llwybrau… Darllen Rhagor »

Mozilla Thunderbird yn Gymraeg

Mae’r rhaglen e-bost cynhwysfawr Thunderbird ar gael bellach yn Gymraeg. Mae’r rhaglen yn cynnwys y gallu i dderbyn ac anfon e-byst o amryw o gyfrifon, e.e. Gmail neu Yahoo a chadw copïau o’ch e-byst ar-lein ar eich cyfrifiadur neu mewn man diogel. Mae hefyd yn cynnwys llyfr cyfeiriadau ac y gallu trin gwasanaethau negeseuon gan… Darllen Rhagor »

Skype Cymraeg ar eich Cyfrifiadur

Mae rhyngwyneb Cymraeg ar gael ar gyfer Skype. Beth yw Skype? Rhaglen galwadau fideo neu lais am ddim lle gallwch gysylltu â theulu, ffrindiau, cydweithwyr yn rhywle cyn belled â bod ganddyn nhw gopi o Skype ar eu cyfrifiadur. Hefyd, mae modd talu Skype a gwneud galwadau i linellau ffôn cyffredin, fel rheol am bris… Darllen Rhagor »