Archifau Categori: Dim Categori

Signal, yr ap negesu diogel nawr ar gael yn Gymraeg

Mae Signal, yr ap negeseuon diogel newydd ei ryddhau’n Gymraeg. Mae modd dewis y Gymraeg drwy fynd i Settings > Appearance a dewis Cymraeg. Bydd y rhyngwyneb yn troi’n Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Android yn unig. Mae Signal yn ap sy’n defnyddio’r signal ffôn neu’r rhyngrwyd i gyfathrebu. Mae modd… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19.1

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tessa” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Darllen Rhagor »

Adnoddau Codio yn Gymraeg

Dyma restr o rai o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio yn Gymraeg ac i godio yn Gymraeg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddeunydd Scratch, Kodu, Python, ac ati. Hefyd, mae gwybodaeth am yr pyrth gwybodaeth sydd ar gael sy’n cynnwys meddalwedd codio Cymraeg. Mae’r rhestr wedi ei llunio gan Gareth Morlais o Uned y… Darllen Rhagor »

WordPress 5.0

Mae WordPress 5.0 nawr ar gael! Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd… Mae thema newydd… Darllen Rhagor »

Diweddariad Mis Hydref Common Voice Cymraeg

Lle ydyn ni arni erbyn hyn? Yn ystod y pedwar mis ers rhyddhau Common Voice Cymraeg mae tipyn go lew o gynnydd wedi ei wneud yn y gwaith o gasglu data Common Voice Cymraeg. Y nod ar hyn o bryd yw casglu 100 awr o ddata lleisiau Cymraeg. Pam can awr? Wel, mae’r dechnoleg yn… Darllen Rhagor »

Mae’n Wythnos Codio!

Fel rhan o wythnos codio mae Scratch yn cynorthwyo plant a pobl ifanc i ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae gan y RaspberryPi Foundation llwythi o ddeunyddiau Cymraeg ar eu gwefan ar gyfer chwarae/arbrofi. Cofiwch fod modd arbrofi gyda Scratch 3 Beta, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg. Cliciwch y… Darllen Rhagor »

Pobl Cymru, mae’n amser codi eich llais – fel bod peiriannau’r dyfodol yn ein deall ni.

Sut fyddwch chi’n siarad gyda’ch gweision? Ddim yn gwestiwn cyffredin y dyddiau hyn ond yn y dyfodol efallai. Ac mae’n well paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw nawr. Yn ddiweddar, mae Mozilla, y sefydliad rhyngrwyd Americanaidd sy’n cynhyrchu Firefox a Thunderbird, anogwyr preifatrwydd a diogelwch ar-lein, wedi lansio estyniad o’u hymdrechion i greu offer i’ch… Darllen Rhagor »

Google Calendar nawr yn Gymraeg!

Mae Google Calendar nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd agor y rhyngwyneb Cymraeg drwy Settings>Language & Region a dewis Cymraeg. Mae ange ail-lwytho’r dudalen a bydd y Gymraeg yn weladwy. Mae nifer o raglenni Google nawr ar gael yn Gymraeg – Mail, Contacts a Maps. Calendr Google Gosodiadau Diolch i @DewiEirig am y wybodaeth

Thunderbird 60

Ar ôl hir aros mae Thunderbird wedi ei ddiweddaru ac mae’n edrych fel bod bywyd yn yr hen dderyn o hyd! Mae Thunderbird 60 i’w gael o wefan Cymraeg Thunderbird. Mae’r newidiadau yn niferus ac yn amrywiol ac mae cofnod llawn ohonynt i’w gweld yn y Nodiadau Ryddhau.