

WordPress
System enwog ar gyfer creu blog yw Wordpress. Mae'r fersiwn diweddaraf yn cynnwys modd i osod tudalennau sefydlog yn ogystal â rhai sy'n symud i lawr gydag amser. Mae dau fersiwn gwahanol, un ar weinydd WordPress sydd ar gael yn Saesneg yn unig (WordPress.com) a'r llall y mae modd ei ddefnyddio ar weinydd sydd ag adnoddau angenrheidiol PHP a MySQL (WordPress.org). Ar yr ail mae modd gosod pecyn iaith Cymraeg. Mae'n ddewis da ar gyfer creu safleoedd gwe lle mae modd rhannu adnoddau gyda phobl eraill ac mae dewis mawr o ategynnau ar gyfer gwahanol bwrpasau, ee calendr , podledu, lluniau ac ati. Mae modd creu tudalennau amlieithog hefyd.
Mae'r rhaglen i'w gael oddi ar safle WordPress ac mae'r ffeil iaith i'w chael oddi ar Meddal.com ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei osod ar safle WordPres yn fuan. Mae rhai brawddegau yn parhau yn Saesneg.
Mae'n holl bwysig darllen y cyfarwyddiadau sydd ar safle gwe WordPress er mwyn deall yr anghenion o ran y gweinydd a sut mae gosod y pecyn iaith o fewn y rhaglen.
Mae'r enghreifftiau hyn yn dod o safle gwe capelyffynnon.org nes i greu yn ddiweddar ac yn cynnwys calendr syml a'r gallu i bodledu ffeiliau sain. Mae'r safle ar weinydd BlueHost sy'n cael ei argymell gan WordPress ac yn rhesymol ei bris.
Cyfieithiad: Addasiad o gyfieithiad o WordPress 1.5.2 gan Rhoslyn Prys