

Thunderbird
Rhaglen e-bost a grwpiau newyddion yw Thunderbird ac yn debyg i Outlook Express. Mae'n cadw at y safonnau rhyngwladol ac yn meddu ar rheolydd sgrwtsh/spam effeithiol iawn. Mae modd gwirio eich sillafu wrth defnyddio’r gwirydd sillafu Cymraeg neu Saesneg sy’n gynnwysiedig.
Gosod Thunderbird 2
Er mwyn gosod Thunderbird 2 bydd angen gosod yr elfennau hyn:
Rhaglen Thunderbird 2
Ewch i safle Mozilla a llwytho i lawr y rhaglen yn Saesneg. Cliciwch ar eicon y rhaglen a dilyn y cyfarwyddiadau gosod.
Y Pecyn Iaith
Llwythwch y Pecyn Iaith i lawr i fan cyfleus ar eich cyfrifiadur - y Bwrdd Gwaith efallai.
Yna ewch i Tools > Add-ons yn Thunderbird 2 a chliciwch ar fotwm Install, sydd ar waelod chwith y ffenestr.
Bydd y cyfrifiadur yn gofyn am leoliad y Pecyn Iaith ar eich cyfrifiadur, ewch yno a chlicio Iawn i'w osod. Bydd y rhaglen yn gofyn cadarnhad ar gyfer gosod y pecyn ac yna ymhen ychydig bydd cofnod o'r pecyn iaith yn ymddangos o fewn ffenestr Add-ons.
Yna cliciwch Restart Thunderbird. Bydd y rhyngwyneb yn ymddangos yn Gymraeg.
Gosod Gwirydd Sillafu
Ewch i Offer > Ychwanegiadau a chlicio ar Estyn Estyniadau. Mae modd chwilio am Dictionaries
Ewch i lawr y dudalen a chlicio ar Install gyferbyn a Welsh / Cymraeg.
Bydd hwn yn caniatáu i chi wirio eich sillafu wrth deipio e-byst, ag ati.
Rhyngwyneb Aml-ieithog
Os ydych angen gallu defnyddio Thunderbird 2 yn Gymraeg, neu unrhyw iaith arall sydd a'r gael yna defnyddiwch estyniad Quick Locale Switcher .
Ar ôl gosod Thunderbird 2 yn Saesneg, cliciwch ar Tools > Add-ons. Bydd ffenestr Add-ons yn agor gyda botwm Get Extentions ar y dde..
Cliciwch ar Get Extentions - byddwch yn mynd i adran Add-ons Thunderbird ar y we. Y ffordd hawsaf i gael gafael ar yr estyniad yw teipio Quick Locale Switcher yn y blwch Search...
Cliciwch ar Quick Locale Switcher i fynd drwodd at y rhaglen a'r cyfarwyddiadau gosod. Mae'r cyfarwyddiadau ar waelod y dudalen. Mae'n golygu clicio ar y botwm mawr gwyrdd Install Now
Bydd modd dewis pa iaith i'w defnyddiodrwy'r ddewislen Offer > Quick Locale Switcher.