

Os ydych am lwytho rhai o'r rhaglenni oddi ar y safle hwn yna bydd angen Star Downloader arnoch. Os ydych wedi cael y profiad o golli pecyn wrth ei lwytho i lawr yna mae Star Downloader yn hanfodol. Mantais mawr Star Downloader yw ei fod yn cyfuno'n awtomatig gyda Gwe-lywiwr ac mae'r ddau'n cydweithio'n hapus.
Panel Dewisiadau lle mae modd ei drefnu i wneud yr hyn sy'n gyfleus - i chi.
Mae'r pecyn iaith i'w gael yma.
Rhowch y ffeil o fewn C:/Program Files/Star Download/Translations ac yna ail gychwyn y rhaglen. Ewch i File ac yna Options. Ewch lawr y rhestr dewis i Languages dewiswch Welsh ac ailgychwyn y rhaglen.
Mae'r templed +Tools yn cynnwys set o offer ar gyfer awtomeiddio tasgau sylfaenol ar ffeiliau ar gyfer y gwaith o gyfieithu. Mae nhw'n gweithio o fewn rhaglenni MS Office ar y Mac a'r PC. Mae'n werth ymweld â'r safle'n rheolaidd am eu bod yn cael eu diweddaru'n gyson. Mae'r cyfan i'w cael am ddim/am bris bychan iawn mewn pecyn bychan iawn o'r safle