croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

OpenOffice.org 2.0

abiword

Mac a Linux ar waelod y dudalen

Mae OpenOffice.org yn darparu tuag at anghenion helaeth prosesu geiriau, taenlen. cronfa ddata a chyflwyno yn Gymraeg. Mae'r pecyn hefyd yn caniatau i chi lwytho i lawr geiriadur Cymraeg sy'n gwirio sillafu dogfennau sy'n cael eiu cynhyrchu gan y pecyn. Mae OpenOffice.org ar gael ar gyfer Windows, Linux a'r Mac. Mae fersiwn penodol ar gael ar gyfer y Mac o'r enw NeoOffice.

Mae OpenOffice.org hefyd ar gael mewn fersiwn dwyieithog sy'n gosod botymau Cymraeg a Saesneg ar frig y sgrin ar gyfer newid rhyngwyneb a geiriaduron y rhaglen yn unol â dymuniad y defnyddiwr.

Mae gwirydd sillafu Cymraeg ar gael drwy ei lwytho i lawr oddi ar y we ac mae modd defnyddio Cysill3 Canolfan Bedwyr o'i fewn.

Rhyngwyneb Writer 2.1

Writer yw rhaglen prosesu geiriau OpenOffice.org: defnyddiwch hon ar gyfer amrywiaeth o dasgau, o ysgrifennu llythyr sydyn i gynhyrchu llyfr cyfan gyda lluniau wedi eu mewnosod, croes gyfeirio, tablau cynnwys, mynegeion, llyfryddiaethau... Mae awto gwblhau, awto fformat a gwirio sillafu wrth weithio yn gwneud y gwaith anoddaf yn haws Mae Writer yn ddigon pwerus i ymgymryd â chyhoeddi bwrdd gwaith fel creu taflenni gyda cholofnau, llyfrynnau – eich dychymyg yw'r terfyn.

Rhyngwyneb Calc 2.1

Calc

Defnyddiwch Calc i reoli eich rhifau. Mae'r daenlen bwerus hon yn meddu'r holl offer angenrheidiol ar gyfer gyfrifo, dadansoddi, crynhoi a chyflwyno eich data mewn adroddiadau rhifiadol neu graffigau trawiadol. Mae'r cymorth llawn yn gwneud defnyddio fformiwlâu cymhleth yn beth sym Mae offer penderfynu soffistigedig i'w cael ar ben draw'r llygoden. Tynnwch ar ddata allanol gan ddefnyddio'r Peilot Data, ei ddidoli, hidlo, a chreu is-gyfamsymiau a dadansoddiadau ystadegol ohono. Defnyddiwch ragolwg i ddewis o blith undeg tri siart 2-D a 3-D gan gynnwys siartiau llinell, ardal,

Dewin Base 2.1

Base

Base – y ffordd newydd i gael mynediad i gronfeydd data

Yn newydd i Fersiwn 2, mae Base yn eich caniatáu i drin data cronfeydd data yn rhwydd o fewn OpenOffice.org. Crëwch a newidiwch dablau, ffurflenni, ymholiadau ac adroddiadau, drwy ddefnyddio eich cronfa ddata eich hun neu beiriant cronfa ddata HSQL Base.

A llawer iawn mwy...

Mae OpenOffice.org hefyd yn cynnwys Draw, rhaglen graffig 2-D / 3-D llawn (llun sgrin isod), Impress ar gyfer creu cyflwyniadau (gw.: llun ar flaen y daflen hon), a Math, golygydd arbenigol ar gyfer symbolau mathemategol. Mae'r crëwyr pdf a Flash gyflwynwyd yn Fersiwn 1 hefyd wedi eu gwella'n sylweddol yn Fersiwn 2.

Fersiynnau ar gyfer Linux a'r Mac

OpenOffice.org 2.2.1 Cymraeg - Linux RPM

OpenOffice.org 2.2.1 Cymraeg - Linux Deb
Mae dosbarthiadau unigol yn darparu eu fersiwn nhw o OpenOffice.org. Gell edrych ar y ddarpariaeth yna yn gyntaf.

OpenOffice.org 2.2 Cymraeg - Mac PPC

OpenOffice.org 2.2 Cymraeg - Mac Intel

Cyswllt safle Cymraeg: cy.openoffice.org

Safle cyffredinol: openoffice.org