

newyddion
mehefin 2008
Firefox 3
Mae pecyn iaith Cymraeg ar gyfer Firefox 3 ar gael gan Meddal.com . Mae Firefox yn frith o nodweddion newydd sy'n cynnwys llwytho tudalennau'n gyflymach, delio gyda thwyll ar y we yn fwy effeithiol, gosod nodau tudalen gydag un clic, ac ati. Mae'r nodweddion llawn yn fan hyn.
Yn anffodus, ni fu'n bosib cynnwys y cyfieithiad ar safle Mozilla fel oedd y bwriad. Mae'n ymddangos mai ychydig o ieithoedd gafodd eu hychwanegu i restr Firefox 2 ac na fu ymdrech i ychwanegu at rheini gan Mozilla ar gyfer Firefox 3. Byddwn yn ceisio gosod y pecyn iaith ar safle Add-ons Mozilla pan fyddant yn caniatáu hynny. Yn anffodus, mae rhai swyddogaethau ynghlwm wrth y fersiwn Saesneg nad oes modd eu cyfieithu drwy'r pecyn iaith, ee Most Visited ar y rhyngwyneb.
Mae'r pecyn iaith yn gweithio ar fersiynau Windows, Mac a Linux o Firefox 3. Rhaid gosod Ychwanegyn Quick Locale Launcher yn gyntaf er mwyn dewis y Gymraeg. Mae'r cyfarwyddiadau llawn ar gael ar dudalen Firefox.
Mae selogion Facebook wrthi'n cyfieithu rhyngwyneb y rhwydwaith cymdeithasol poblogaidd. Os oes gennych ddiddordeb ewch i adran cyfieithu Facebook (rhaid cael cyfrif Facebook) a chynnorthwyo drwy gyfieithu a phleidleisio am gyfieithiadau. Mae'n rhagorol gweld yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma.
OpenOffice.org 3.0 Beta
Eisiau cael golwg ar y fersiwn nesaf o OpenOffice.org? Awydd profi a darparu adborth ar y rhaglen? Mae posib cael gafael arno yma:
Windows MacIntel LinuxRPM LinuxDeb
Anfonwch adborth ar y Gymraeg i post@meddal.com. Diolch!
mai 2008
Gwefan Wetwork
Mae'r wefan yn cynnig cyfieithiadau Cymraeg o offer ar gyfer dylunwyr gwe. Mae nhw'n cynnwys:
Spaw2 - pecyn prosesydd WYSIWYG arlein - sydd a'r gallu i reoli llwytho ffeiliau.
YAV - gwiriwr data ochr-gleient ffurflenni gwe.
Podcast generator: ar gyfer creu ffeiliau RSS, podcast a vidcast.
Coppermine - pecyn ar gyfer cynhyrchu orielau lluniau a llawer mwy
Diolch i Alan Davies am y wybodaeth
ebrill 2008
Mandriva 2008.1
Mae'r fersiwn diweddaraf o Mandriva 2008 wedi ymddangos gyda chyfieithiad llawn o'r rhyngwyneb cynhenid. Mae'n defnyddio amryw o ryngewynebau KDE, GNOME ac mae modd ychwanegu atynt KDE 4.03 diweddaraf ac Xfce, gyda rhngwyneb GNOME ar gael yn rhannol yn Gymraeg. Ar gyfer y fersiwn Cymraeg dewiswch y Mandriva Free ar 3 CD neu un DVD. Nid yw'r Gymraeg ar Mandriva One.
Abiword 2.6
Diweddariad cynhwysfawr o'r prosesydd geiriau bychan a chwim Abiword. Nid yw'n gwneud popeth mae Word yn ei wneud ond mae'r hanfodion yn gynt, yn gyflymach ac am ddim...
mawrth 2008
OpenOffice.org 2.4
Mae'r fersiwn diweddaraf yma'n cynnwys gwelliannau i nifer o elfennau o OpenOffice.org i gryfhau'r berthynas gydag agor ffeiliau yn Access ac Excel yn fwy llwyddiannus. Cofiwch fod nifer cynyddol o Estyniadau ar gael ar gyfer ychwanegu offer newydd i'r pecyn.
Mae safle gwe cy.openoffice.org wedi cael diweddariad ac mae'r ffeiliau Cymraeg i gyd i'w cael yno.
Cysgliad Mac
Mae Canolfan Bedwyr yn ryddhau fersiwn o Cysgliad i'r Mac yn sgil nawdd gan Fwrdd yr Iaith. Mae'r pecyn rhad ac am ddim ar gael o safle gwe Cysgliad Mac
Cysgliad Windows
Diweddariad Newydd 17/03/08 Mae diweddariad newydd rhad ac am ddim o Cysgliad i'r PC wedi ei ryddhau dros y we. Mae'n cynnwys gwelliannau i lecsicon a rheolau gramadeg Cysill. Mae'r diweddariad hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r modd mae Cysgliad yn gweithio gyda Vista ac Office 2007. Mae'r diweddariad ar gael ar-lein drwy raglen Cysill.
Cysgliad a Google Maps
Mae manylion am hyn ar Murmur, blog Canolfan Bedwyr
Wordpress 2.2.3
Mae pecyn iaith diweddaraf Wordpress ar gael .
rhagfyr 2007
Rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows Vista ac Office 2007
Mae'r pecyn iaith Cymraeg ar gyfer sytem weithredu Microsoft Vista wedi ei ryddhau ac ar gael drwy ei lwytho i lawr o safle gwe Microsoft. Mae'r pecyn ar gael am ddim. Mae Bwrdd yr Iaith hefyd yn ryddhau pecyn newid iaith i gyd fynd â phecyn iaith Microsoft.
Cyfieithiwyd rhyngwyneb Vista ac Office gan gwmni Cymen o Gaernarfon a datblygwyd offer gwirio sillafu Office 2007 gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor sydd hefyd yn gyfrifol am wirydd sillafu a gramadeg Cysgliad.
hydref 2007
OpenOffice.org 2.3
Prif nodwedd newydd 2.3 yw'r gallu i ddefnyddio Estyniadau. Mae'r Estyniadau yn gweithio yn yr un ffordd a'r Ychwanegiadau o fewn Firefox ac yn gyfle i ddatblygwyr greu a defnyddwyr ddefnyddio nodweddion newydd ychwanegol ar gyfer y tasgau swyddfa.
Nodweddion newydd
medi 2007
Limewire
Rhaglen llwytho ffeiliau cynnwys oddi ar y we. Ar gael a ar gyfer Windows Mac a Linux. Dioclch i Huw am y cyfieithiad. Ewch i Limewire i weld
Mandriva 2008 ac Ubuntu
Mae'n dymor diweddariadau Linux ac mae'r ddau ddosbarthiad yma wedi ryddhau eu cynnigion diweddaraf. Mae'r cyfieithiad llawn Cymraeg i'w gael ar fersiwn llawn o Mandriva nid ar yr un disg tra bod modd llwytho i lawr cyfieithiad rhannol o Ubuntu ar o gosod y system.
awst 2007
Meddal yn yr Eisteddfod
Mae Meddal yn rhan o stondin Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn Eisteddfod yr Wyddgrug, cofiwch ddod heibio i'n gweld!
Dyma gyfres o bosteri er mwyn hybu meddalwedd Cymraeg. Gwnewch gopiau a'u dosbarthu o amgylch eich hardal chi...
Netvibe
Casglwr cyfeiriadau RSS neu Atom yw Netvibe ac mae'n cynnig y cyfle i gasglu llawer o ddeunydd mewn un man. Mae modd ei osod fel eich tudalen cartref ar y we a denu'r holl wybodaeth fyddwch yn mynd ar ei ôl yn rheolaidd mewn un man: safleoedd gwe, tywydd, newyddion, videos, lluniau, ac ati.
Ewch i'w weld yn www.netvibes.com
gorffennaf 2007
Geiriadur Cymraeg > Saesneg ar gyfer eich ffôn symudol. Mae'n cynnwys geiriadur deunaw mil o eiriau gan Mark Nodine. Mae'r rhaglen wedi eu chreu gan David Chan.
Mae cyfieithiad llawn o'r fersiwn diweddaraf o WordPress ar gael yma ar Meddal.com. Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o ddatblygiadu defnyddiol gan gynnwys y modd i greu tudalennau sefydlog. Mae hyn yn golygu bod modd ei ddefnyddio i greu safleoedd gwe yn ogystal â blogiau.
System rheoli cynnwys ar gyfer creu safleoedd gwe, mae gwybodaeth lawn i'w gael oddi ar eu gwefan
System rheoli cynnwys i gynorthwyo addysgwyr i greu cymunedau dysgu ar-lein.
mehefin 2007
Diweddariad ar Thunderbird 1.x yn awr ar gael yn Gymraeg drwy gyfrwng pecyn iaith. Mae'n cynnig gwell offer ar gyfer trefnu ffolderi eich blwch i Mewn a gwell diogelwch. Mae Thunderbird 2 ar gael o safle Mozilla. Mae'r pecyn iaith i'w gael yma. Ewch i dudalen Thunderbird am y cyfarwyddiadau'n llawn.
Rhyngwyneb cofnodi gwybodaeth yn effeithiol yw Dasher. Mae'n cael ei yrru gan y broses o bwyntio'r cyrchwr. Mae'n addas ar gyfer adegau lle nad oes modd defnyddio bysellfwrdd am unrhyw reswm.
Diweddariad i gywiro mân wallau
ebrill 2007
Mae'r blog yn trafod gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y sawl sydd diddordeb mewn defnyddio Ubuntu. Mae hefyd yn enfhraifft dda or hyn y gellir ei wneud drwy gyfrwng blog Nireblog.
Gwasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer y sawl sydd am gynnal blog yn Gymraeg drwy gyfrwng rhaglen Cymraeg. Os ydych yn defnyddio Firefox mae modd defnyddio'r pecyn gwirydd sillafu ac mae Cysgair yn gweithio o'i fewn drwy gyfrwng 'bysell boeth'.
Opera 9.2
Diweddariad sy'n cynnwys nodewdd newydd - 'Deialu Cyflym' ac amryw o welliannau ar sut mae'r porwr yn gweithio. Manylion pellach i'w cael ar safle Opera . Pecyn iaith i'w gael o dudalen Opera.
Ubuntu 7.04
Diweddariad o'r system feddalwedd cod agored poblogaidd. Amryw byd o newidiadau, gwybodaeth i'w gael o safle Ubuntu. Mae'r cynnwys Cymraeg i'w gael o fewn y dosbarthiad.
Mandriva Linux 2007 Spring
Diweddariad Gwanwyn 2007 yn cynnwys diweddariad o'r rhaglenni sy'n gynwysiedig,Firefox 2.0, Thunderbird 2.0, OpenOffice.org 2.1 a gwasanaethau newydd fel OpenWengo, Fon yn ogystal â chefnogaeth ar rhedeg systemau cyfrifiadurol yn rhithiol o fewn y system. Rhagor i'w weld yn natganiad Mandriva.
Mae OpenOffice.org 2.2 yn rhyddhad newydd pwysig dylai pawb ei lwytho i lawr a'i ddefnyddio gan ei fod yn datrys gwall diogelwch ac yn cynnig gwelliannau sylweddol. Mae'r rhain yn benodol a chyffredinol. Mae rhestr gyflawn o nodweddion newydd i'w cael yn y nodiadau ryddhau ond yn eu plith y mae:
* Testun yn edrych yn well
* Gwell cefnogaeth i Dablau Troi
* Amryw o welliannau sylweddol i Base
* Fersiwn cadarnach ar gyfer Mac X11
... a llawer rhagor
mawrth 2007
Hyfforddiant cyfrifiadurol rhyngweithiol ar gyfer defnyddio Microsoft Office yn Gymraeg
NeoOffice 2.1
Diweddariad i NeoOffice yn cyfateb i OpenOffice.org 2.1
Arolwg ar Hybu Technoleg Cymraeg
Mae'r Bwrdd newydd gyhoeddi'r arolwg yma o agweddau pobl dda Amlwch tuag at dechnoleg gwybodaeth yn Gymraeg. Mae'r adroddiad, gan Eleri Wyn Jones, Monitor Cymru ar gael o safle'r Bwrdd. Ymunwch â'r drafodaeth ar Maes-e.
Hasta la Vista...!
Yn groes i'r hyn awgrymwyd ynghynt, mae'n ymddangos nad yw cyfieithiad Cymraeg Vista ar y DVD gosod. Bydd y cyfieithiad yn ymddangos rhywbryd yn y dyfodol. Dyddiad anhysbys ond mae Gŵyl Ddewi wedi pasio. Rheswm arall dros aros gyda XP neu symud at Linux.. ;-)
chwefror 2007
Firefox 2.0 Newydd!
Pecyn iaith ar gyfer porwr diweddaraf Firefox. Mae'r pecyn iaith i'w gael o fan hyn. Er mwyn gosod y ffeil agorwch File> Open File yn fersiwn Saesneg Firefox 2.0 ac yna chwilio am le rydych wedi gosod ffeil iaith Firefox a chlicio arno. Unwaith y bydd wedi ei osod bydd angen ailgychwyn Firefox.
Lansio safle gwe newydd Meddal.com. Diolch i Gruff Goch am y dylunio a'r gwaith technegol. Fel y gwelwch chi mae yna fylchau o fewn rhai tudalennau ond mae'n well symud ymlaen...
Cyflwyniad PowerPoint ar Gymreigio'r cyfrifiadur
Rhaglen wiki gyda chyfarwyddiadau yn Gymraeg. Newydd sylwi ar hwn...
Media Player 11 ac Internet Explorer 7 Rhybudd!
Mae'n bosib nad oes cyfieithiad Cymraeg o'r rhaglenni hyn ar gyfer Windows XP. Os ydych am ddiweddaru cofiwch mai dim ond y fersiwn Saesneg fydd ar gael. Mae tynnu IE7 yn gallu tarfu cryn dipyn ar eich peiriant.
ionawr 2007
Diweddariad o'r prosesydd geiriau bychan a chyflym.
Rhaglen prosesu geiria syml sy'n cynnwys llais Cymraeg. Datblygiad ar y cyd rhwng Cymdeithas Dyslecsia Cymru a Chanolfan Bedwyr. Mae posib cael copi o'r rhaglen drwy gysylltu â'r Gymdeithas drwy eu safle gwe. Rhagor gan y BBC
Dull o fedru gwrando ar safle gwe yn lle ei darllen. Mae wedi ei haddasu ar gyfer y Gymraeg ac i'w chlywed ar safle gwe Bwrdd yr Iaith a chyngor Wrecsam . Rhagor gan PingWales .
rhagfyr 2006
Mae’r fersiwn newydd yn cynnig y canlynol:
Cefnogaeth I monitor niferus yn Impress
Cefnogaeth gwell i HTML yn Calc
Gwell cefnogaeth i Access yn Base
Y gallu i ddatblygu ategynnau ar gyfer y rhaglen, fel yn Firefox.
Mae’r diweddariad I’r porwr yn cynnwys offer diogelu rhag twyll - gwrth bysgota? Mae’r ffeil iaith i’w gael oddi yma er mwyn ei gosod o fewn y rhaglen a chyfeirio’r rhyngwyneb tuag at y ffeil.
tachwedd 2006
Ar hyn o bryd y porwr mwyaf hyblyg a Chymreig o’r cyfan - Windows, Mac a Linux ac yn cynnig gwirydd sillafu ar gyfer Windows a’r Mac - ond - mae angen bach o waith i’r rhoi yn eu lle. Mae ganddo hefyd wirydd sillafu sy’n defnyddio Aspell Cymraeg felly mae modd gwirio e-byst cyn eu hanfon. Mae cyfarwyddid hawdd a syml ar dudalen Opera Meddal.com.
Mae OpenOffice.org Agored yn addasiad o OpenOffice.org Cymraeg 2.0.0 sy’n cynnwys rhyngwyneb dwyeithog y mae modd newid o un iaith I’r llall a dewis pa offer gwirio sillafu I’w defnyddio, ffeiliau cymorth yn Gymraeg a llawlyfr defnyddiwr. Mae’r rhaglen I’w gael o safle Agored.com a’r llyfr o’ch siop lyfrau Cymraeg lleol.
Cafodd Plone Cymraeg ei lansio yn yr Almaen yn ddiweddar gan gwmni Topia. Mae Plone yn system reoli cod agored cynnwys poblogaidd Gw. www.plone.org. Am fwy o wybodaeth cysylltwch Topia.com
Mae Scribus yn rhaglen cyhoeddi dogfennau yn yr un ffordd â MS Publisher. Cyfieithwyd y rhaglen gan Kevin Donnelly peth amser yn ôl ar gyfer Linux ac mae rhai bylchau yn y cyfieithiad erbyn hyn, ond mae’n werth cymryd golwg arni.
hydref 2006
Mae mis Hydref wedi bod yn fis prysur iawn ar gyfer croesawu deunydd cyfrifiadurol Cymraeg. Mae dosbarthiad Ubuntu yn haeddiannol boblogaidd gyda tua un rhan o dair ohonno wedi ei gyfieithu i’r Gymrarg.
Ryddhawyd Fedora 6 echddoe gyda rhythr mawr am fynediad at y gweinyddion. Gan fod y dosbarthiad mor boblogaidd bydd hi’n rhai dyddiau cyn gallu cael cyfle call i lwytho i lawr copïau. Yn y gorffennol bu cyfran helaeth o raglenni cynhenid Fedora ar gael yn Gymraeg yn ogystal â Gnome.
Mae IE7 wedi ei ryddhau ond ni fydd y fersiwn Gymraeg ar gael tan fis Ionawr. Cadwch at Firefox...
Mae'r prif welliannau yn cynnwys gwell reolaeth o ddogfennau PDF, allforio'n syth i LaTex a swyddogaethau newydd yn Calc ac Impress.
Ryddhawyd disgiau byw, 3CD neu DVD ar gyfer profi neu ddechrwywyr. Yn wahanol i'r blynyddoedd a fu ryddhawyd y copiau rhydd yr un amser a'r rhai masnachol. Mae'n cynnwys fersiynnau diweddaraf y prif raglenni i gyd.
medi 2006
Ryddhawyd addasiad NeoOffice 2.0 Beta3 o OpenOffice.org 2.0 ar gyfer y Mac. Mae posibl defnyddio'r gwirydd sillafu gyda hwn. Mae'n edrych rhywfaint yn debycach i raglenni mac, hefyd.
awst 2006
Presenoldeb Meddal yn stondin Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg a Phrifysgol Bangor. Diolch i bawb daeth heibio.
Meddalwedd argbrofol ar gyfer ffonau symudol sy'n darogan neu rhagfynegu testun gan wneud tecstio'n haws.
mehefin 2006
Mae Bwrdd yr Iaith a Draig Technology wedi datblygu teclyn i newid iaith rhyngwyneb Microsoft XP rhwng y Gymraeg â’r Saesneg. Mae ar ffurf Beta ar hyn o bryd felly rhowch gynnig ar y rhaglen ac adrodd yn ôl i ’r Bwrdd.
Ryddhad diweddaraf o'r dosbarthiad Linux poblogaidd ar un CD.
ebrill 2006
Canllawiau a Safonnau Meddalwedd Dwyieithog
Deunydd Bwrdd yr Iaith ar faes datblygu meddalwedd dwyieithog.
mawrth 2006
Ar gyfer defnyddd mewn mannau dwyieithog - teuluoedd, ysgolion, swyddfeydd, mae Meddal.com wedi datblygu fersiwn arbennig o OpenOffice.org lle mae modd newid rhyngwyneb ac offer gwirio iaith yn hawdd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Diweddariad ar NeoOffice yn cynnwys gallu agor y ffeiliau OpenDocument newydd.
CD byw gan gwmni Mandriva sy’n cynnwys rhyngwyneb Cymraeg. Beta cynnar ydyw, dim ond ar un cyfrifiadur dwi wedi llwyddo I’w gael I weithio...
Pecyn cynhwysfawr amlgyfrwngar gyfer gwylio’r teledu, DVD, gwrando ar gerddoriaeth ac ati. Nid yw mor soffistigedig â Media Center Microsoft ond yn gyfle I brofi’r datblygiad. Ar hyn o bryd nid yw’r pecyn iaith Cymraeg sy’n cael ei gynnwys gyda’r rhaglen yn gweithio rhaid ei olygu a newid y cod iaith o iso-1889-14 I iso 1889-1.
Diweddariad o OpenOffice.org sy’n gwella rhai diffygion.
Prosesydd Geiriau syml sy’n gallu siarad Cymraeg! Cywaith rhwng Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru Bangor, Bangor a Phrosiect Dyslecsia Cymru. Y Prosiect fu’n gyfrifol am addsau EdWord i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o broject Dystrain yr Uned Ewropeaidd.
tachwedd 2005
Mae modd rhedeg OpenOffice.org 2.0 ar eich Mac a gwneud defnydd o’r gwirydd sillafu. Er mwyn ei redeg mae angen gosod X11 sydd I’w gael ar ddisg osod Panther a Tiger. Ar ôl ei osod, gosod OpenOffice.org 2.0 Mac . Wrth glicio ar eicon OpenOffice.org bydd X11 yn agor ac yna OpenOffice.org. Mae manylion pellach i’w cael ar waelod tudalen safle Apple lle mae’n trafod Installing and Running OpenOffice. Mae gosod y gwirydd yn digwydd yn yr un fford ag ar y fersiwn Windows: Ewch i Ffeil > Dewiniaid > Gosod geiriaduron newydd a dilyn y cyfarwyddiadau.
OpenOffice.org Celtaidd
Mae gwaith yn mynd yn ei flaen yn y rhanfwyaf o’r ieithoedd Celtaidd i ddarparu fersiynnau o OpenOffice.org. Y rhai mwyaf amlwg yw Llydaw, Gaeleg yr Alban, a’r Wyddeleg. Mae yna sibrydion ynghylch y Fanaweg a’r Gernyweg hefyd - gawn ni weld…
Mantais cod agored yw ei fod yn agored I’w ddatblygu i ieithoedd lleiafrifol ac mae OpenOffice.org yn ddarn pwerus iawn o feddalwedd i unrhyw iaith leiafrifol gael yn ei feddiant. Felly os oes gennych sgiliau yn yr ieithoedd hyn cysylltwch ag arweinwyr y projectau hyn i gynnig eich cymorth.
Gwirydd Sillafu OpenOffice.org 2.0
Yn wahanol I’r hyn nodwyd isod mae’r gwirydd sillafu ar gyfer OpenOffice.org 2.0 ar gael yn awr. Ewch i Ffeil > Dewiniaid > Gosod geiriaduron newydd a dilyn y cyfarwyddiadau. Bydd y gwirydd wedi ei osod ar eich copi o OpenOffice.org 2.0 mewn byr o dro.
hydref 2005
Croeso mawr i OpenOffice.org 2.0. Mae’r rhaglen wedi datblygu ymhellach ac yn cynnig amryw o nodweddion o ddiddordeb i ddefnyddwyr offer swyddfa Cymraeg.
Mae’n cynnig gwell rhyngwyneb sy’n haws dysgu ei ddefnyddio - ac sy’n fwy deniadol! Mae modd newid iaith y rhyngwyneb drwy osod pecyn iaith a newid y dewis o fewn y rhaglen. Mae modd gosod mwy nag un gwirydd sillafu a’u defnyddio yn annibynnol o iaith y rhyngwyneb. Mae’n cynnig cronfa ddata newydd - Base, sy’n gallu agor y rhanfwyaf o ffeiliau Access, mae’n defnydd o fformat ffeilio XML OASIS OpenDocument sy’n debygol o ddod y fformat ffeil y dyfodol.
Yn gyffredinol mae’n cynnig nifer o welliannau i’r rhaglen flaenorol sy’n gwneud y rhaglen yn fargen anhygoel o gymharu â’r rhaglenni cyfatebol masnachol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.openoffice.org.
Mae yna fersiwn ar gyfer Windows, Debian Linux (rpm) a Mac ac mae’r cysylltiadau isod.
Mac - tydw i heb fedru cael y fersiwn Mac i weithio ar y Mac ond pob lwc. Mae wastad modd defnyddio NeoOffice.org ond gadewch i mi wybod sut hwyl rydych yn ei gael. Does dim cyswllt at becynnau iaith y Mac ar hyn o bryd.
* Bydd gwirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer OpenOffice.org 2.0 yn fuan, peidiwch rhoi gorau i OpenOffice.org 1.0 eto !
Y Rhaglen
Windows Mac Linux (rpm) Debian
Pecynnau Iaith
Mae modd llwytho i lawr copi o Mandriva drwy ftp i’ch disg caled neu bydd rhaid aros nes bod ffeiliau .iso neu ddisgiau ar gefn cylchgronau’n ymddangos. (Neu hyd yn oed ei brynu…) Mae yna nifer o welliannau ar gyfer y dosbarthiad unwaith y flwyddyn gan gynnwys mabwysiadu elfennau o ryngwyneb Lycoris, a deunydd Conectiva ers i Mandriva gymryd y ddau gwmni yna drosodd.
Dyma’r diweddaraf o’r fersiynau o Ubuntu, mae un yn dod allan bob chwe mis, sy’n adeiladu ar ben llwyddiant y fersiwn blaenorol gan gynnig amryw o welliannau a diweddariadau i’r set o raglenni, e.e. mae’n cynnwys OpenOffice.org 2.0.
medi 2005
Mae’r porwr gwe Opera wedi ei ryddhau heb hysbysebion o’r diwedd, mae nhw’n gwneud arian bob tro fyddwch chi’n defnyddio’r peiriant chwilio. Does dim rhaid talu amdano - mae’n rhyddwar. Mae rhagor o wybodaeth amdano a sut mae gosod y ffeiliau iaith I’w gael ar dudalen Opera
Lansio Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg
Cafodd y Gymdeithas ei lansio ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod gan Dafydd Iwan, Deilydd Portffolio Datblygu’r Economi, Cyngor Gwynedd. Pwrpas y Gymdeithas fydd i hyrwyddo’r defnydd o feddalwedd Cymraeg a Chymreig.