croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

NeoOffice

NeoOffice

Mae NeoOffice yn addasiad o OpenOffice.org 2.0 ar gyfer y Mac OSX. Mae’n cynnwys yr un rhaglenni - prosesydd geiriau, taenlen, rhaglen lluniadu a chreu tudalennau gwe a rhaglen gyflwyno. Mae hefyd yn cynnwys y nodweddion Cymraeg, sef, gwirydd sillafu a rhaglen ffontiau.

NeoOffice

Gosod y rhaglen

Er mwyn gosod NeoOffice gwnewch yn siŵr eich bod wedi gosod y Gymraeg fel iaith yng Ngosodiadau System y Mac. Yna llwythwch i lawr y rhaglen ei hun o safle NeoOffice ac wedyn y pecyn iaith. Cliciwch ar ffeil y rhaglen yn gyntaf i’w gosod ac yna ar y pecyn iaith.

Gwirydd Sillafu

Ewch i Ffeil, Dewiniaid a dewis Gosod geiriaduron newydd er mwyn gosod y geiriadur Cymraeg.




























Writer yw rhaglen prosesu geiriau OpenOffice.org: defnyddiwch hon ar gyfer amrywiaeth o dasgau, o ysgrifennu llythyr sydyn i gynhyrchu llyfr cyfan gyda lluniau wedi eu mewnosod, croes gyfeirio, tablau cynnwys, mynegeion, llyfryddiaethau... Mae awto gwblhau, awto fformat a gwirio sillafu wrth weithio yn gwneud y gwaith anoddaf yn haws Mae Writer yn ddigon pwerus i ymgymryd â chyhoeddi bwrdd gwaith fel creu taflenni gyda cholofnau, llyfrynnau – eich dychymyg yw'r terfyn.

Calc

Defnyddiwch Calc i reoli eich rhifau. Mae'r daenlen bwerus hon yn meddu'r holl offer angenrheidiol ar gyfer gyfrifo, dadansoddi, crynhoi a chyflwyno eich data mewn adroddiadau rhifiadol neu graffigau trawiadol. Mae'r cymorth llawn yn gwneud defnyddio fformiwlâu cymhleth yn beth sym Mae offer penderfynu soffistigedig i'w cael ar ben draw'r llygoden. Tynnwch ar ddata allanol gan ddefnyddio'r Peilot Data, ei ddidoli, hidlo, a chreu is-gyfamsymiau a dadansoddiadau ystadegol ohono. Defnyddiwch ragolwg i ddewis o blith undeg tri siart 2-D a 3-D gan gynnwys siartiau llinell, ardal,

Base

Base – y ffordd newydd i gael mynediad i gronfeydd data

Yn newydd i Fersiwn 2, mae Base yn eich caniatáu i drin data cronfeydd data yn rhwydd o fewn OpenOffice.org. Crëwch a newidiwch dablau, ffurflenni, ymholiadau ac adroddiadau, drwy ddefnyddio eich cronfa ddata eich hun neu beiriant cronfa ddata HSQL Base.


A llawer iawn mwy...

Mae OpenOffice.org hefyd yn cynnwys Draw, rhaglen graffig 2-D / 3-D llawn (llun sgrin isod), Impress ar gyfer creu cyflwyniadau (gw.: llun ar flaen y daflen hon), a Math, golygydd arbenigol ar gyfer symbolau mathemategol. Mae'r crëwyr pdf a Flash gyflwynwyd yn Fersiwn 1 hefyd wedi eu gwella'n sylweddol yn Fersiwn 2.

Cyswllt safle Cymraeg: www.cy.openoffice.org

Safle cyffredinol: www.openoffice.org

Meddal

glen e-bost...

Firefox yw'r porwr ar fformat tebyg i Internet Explorer ac yn cynnwys yr holl fanteision o raglen gyda'r datblygiadau technolegol diweddaraf, mae’n gyflym yn ddiogel ac mae’n cynnig tabiau.