Firefox Android 45

Firefox Android yw’r porwr Android mwyaf cyfaddasadwy. Yn gyflym, clyfar a diogel mae porwr syddogol Firefox ar gyfer dyfeisiau Android yn cynnig mwy fyth o ffyrdd i wneud eich profiad pori’r we yn addas i chi. Nodweddion newydd *Cliciwch i weld delweddau, er mwyn rheoli’r defnydd o ddata ar ffonau symudol, o dan ddewislen Gosodiadau>… Darllen Rhagor »

WordPress Android 5.1.1

Mae WordPress Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan ei gwneud yn haws i greu a darllen cynnwys. Gallwch ysgrfiennu, golygu a chyhoeddi cofnodion i’ch gwfan, gwirio eich ystadegau a chael eich ysbrydoli gan gofnodion gwych y y Darllenydd. Mae’r diweddariad yma’n gwella’r ffordd mae’r ap yn ymateb i orchmynion mewn adrannau… Darllen Rhagor »

WordPress iOS ar gael yn Gymraeg

Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch. Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress. Dyma’r cyflwyniad swyddogol: Mae ysbrydoliaeth yn… Darllen Rhagor »

Deall yn Well

Mae Mozilla wedi cychwyn cyhoeddi cyfres cymorth i ddiogelu defnyddwyr  ar y we o dan y teitl Deall yn Well, gan gychwyn gyda Tracio. Mae’r cynnwys yn amlygu beth yw tracio a sut mae cwmnïau ar y we, gan gynnwys trydydd partïon, yn gwneud defnydd o’r data rydym yn ei adael ar ein hôl. Mae’n… Darllen Rhagor »

Firefox 42

Mae Firefox 42, newydd ei ryddhau ac yn cynnwys nodwedd newydd o’r enw Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio. Hyd yma nid yw pori preifat wedi cadw defnyddwyr rhag cael eu tracio. Does gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y we ddim syniad fod trydydd partion yn casglu, cadw a gwerthu gwybodaeth amdanyn nhw. Mae… Darllen Rhagor »

Mozilla Thunderbird yn Gymraeg

Mae’r rhaglen e-bost cynhwysfawr Thunderbird ar gael bellach yn Gymraeg. Mae’r rhaglen yn cynnwys y gallu i dderbyn ac anfon e-byst o amryw o gyfrifon, e.e. Gmail neu Yahoo a chadw copïau o’ch e-byst ar-lein ar eich cyfrifiadur neu mewn man diogel. Mae hefyd yn cynnwys llyfr cyfeiriadau ac y gallu trin gwasanaethau negeseuon gan… Darllen Rhagor »

WordPress 4.3

Mae un o raglenni creu gwefannau mwyaf poblogaidd newydd gael ei ddiweddaru ymhellach ac yn parhau ar gael yn Gymraeg. Hyd at ddoe cofnodwyd fod 205 o wefannau yn defnyddio’r Gymraeg, cynnydd o 50 ers y llynedd, cynnydd da felly. Y fideo… https://videopress.com/v/T54Iy7Tw Y cynnwys newydd… Cyfrineiriau Amgen Cadwch eich gwefan WordPress yn fwy diogel… Darllen Rhagor »

WordPress Android

Mae WordPress Android yn ap sy’n caniatau gweithio o fewn gwefannau WordPress oddi ar eich ffôn Android neu dabled. Mae’n cynnwys gwefannau ar WordPress.com a rhai wedi eu hunan letya – fel Haciaith.com. Mae’r ap ar gael o Google Play. Mae’n cynnig llawer o’r un modd i gyfansoddi a golygu a’r fersiwn ar-lein ond ar ddyfais… Darllen Rhagor »