Windows 10

Rhyngwyneb Windows 10

Windows 10 yw system weithredu ddiweddaraf cwmni Microsoft. Mae’n eithriadol o boblogaidd ac ar  y rhan fwyaf o gyfrifiaduron. Mae Microsoft wedi bod yn gefnogol i’r Gymraeg ers cyfnod XP ac wedi darparu pecynnau iaith neu ddull i droi’r rhyngwyneb i’r Gymraeg ers talwm.

Mae cyfarwyddiadau ar sut i osod Windows 10 ar eich cyfrifiadur ar dudalen gwe Windows 10 Cymraeg

Os ydych yn diweddaru o Windows 8.1 a’r rhyngwyneb eisoes yn Gymraeg mi ddylai ymddangos yn syth ar eich cyfer. Os ydych chi’n diweddaru o Windows 7, efallai y bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod. Felly, sut mae gosod y rhyngwyneb Cymraeg, os nad yw’n ymddangos?

Cliciwch ar y botwm Start > Settings >Time and Language, yna Area and Language. Ar y dudalen honno bydd yn dweud Languages ac Add Language. Yna, cliciwch ar Add Language a bydd ffenestr â rhyw 100 o ieithoedd yn ymddangos. Mae Welsh ar ddiwedd y rhestr, cliciwch arno ac aros. Bydd y pecyn iaith yn llwytho i lawr. Gwnewch yn siŵr mai’r pecyn iaith arddangos sy’n cael ei osod. Ar ôl ei osod ail gychwynnwch Windows a bydd y rhyngwyneb Cymraeg ar gael.