LibreOffice

Mae gwybodaeth lawn am LibreOffice i’w weld ar eu gwefan Cymraeg.

Mae LibreOffice yn darparu ar gyfer anghenion helaeth prosesyddion geiriau, taenlenni, cronfeydd data a chyflwyniadau gweledol yn y Gymraeg.

Mae LibreOffice ar gael ar gyfer Windows, Linux a’r Mac.

Mae Gwirydd Sillafu Cymraeg LibreOffice ar gael drwy ei lwytho i lawr oddi ar y we ac mae modd defnyddio Cysgliad o’i fewn.

Writer yw rhaglen prosesu geiriau LibreOffice. Defnyddiwch hwn ar gyfer amrywiaeth o dasgau, o ysgrifennu llythyr sydyn i gynhyrchu llyfr cyfan gyda lluniau wedi eu mewnosod, croes gyfeirio, tablau cynnwys, mynegeion, llyfryddiaethau, ac ati. Mae awto gwblhau, awto fformat a gwirio sillafu wrth weithio yn gwneud y gwaith anoddaf yn haws. Mae Writer yn ddigon pwerus i ymgymryd â chyhoeddi bwrdd gwaith, fel creu taflenni gyda cholofnau, llyfrynnau – eich dychymyg yw’r terfyn.

Calc

Defnyddiwch Calc i reoli eich rhifau. Mae’r daenlen bwerus hon yn meddu ar yr holl offer angenrheidiol ar gyfer cyfrifo, dadansoddi, crynhoi a chyflwyno eich data mewn adroddiadau rhifiadol neu ar ffurf graffigau trawiadol. Mae’r cymorth llawn yn gwneud defnyddio fformiwlâu cymhleth yn beth syml, tra bo penderfynu soffistigedig i’w cael ar ben draw’r llygoden. Tynnwch ar ddata allanol gan ddefnyddio’r Peilot Data, i ddidoli, hidlo, a chreu is-gyfansymiau a dadansoddiadau ystadegol ohono. Defnyddiwch ragolwg i ddewis o blith un deg tri siart 2-D a 3-D, gan gynnwys siartiau llinell, ardal, a mwy.

Base

Base – y ffordd newydd i gael mynediad at gronfeydd data

Mae Base yn eich galluogi i drin data cronfeydd data yn rhwydd o fewn OpenOffice.org. Crëwch a newidiwch dablau, ffurflenni, ymholiadau ac adroddiadau drwy ddefnyddio eich cronfa ddata eich hun neu beiriant cronfa ddata HSQL Base.

A llawer iawn mwy…

Mae LibreOffice hefyd yn cynnwys Draw, rhaglen graffig 2-D / 3-D llawn, Impress ar gyfer creu cyflwyniadau, a Math, golygydd arbenigol ar gyfer symbolau mathemategol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *