Audacity

Mae Audacity yn olygydd a recordiwr sain rhad a rhydd ar gyfer Windows, Mac a Linux a systemau gweithredu eraill. Gallwch ddefnyddio Audacity i:

* Recordio sain byw

*Trosi tapiau a recordiau i recordiadau digidol neu CDau

*Golygu ffeiliau sain Ogg Vorbis, MP3 a WAV.

*Newid cyflymder neu draw recordiad

* Mae manylion llawn i’w cael ar dudalen nodweddion Audacity

Rhyngwyneb

Rhyngwyneb Audacity

Dewisiadau

Y fersiwn Cymraeg

Mae’r ffeil iaith yn gweithio gyda chyfres 1.x Audacity. Bydd angen gosod y ffeil .mo Cymraeg i fewn yn y rhaglen er mwyn gallu ei ddewis ar rhyngwyneb Hoffterau, gw. uchod.

Yn Windows, ewch i C/Program Files(x86)/Audacity/Languages.

Bydd angen creu ffolder cy a gosod y ffeil Audacity.mo ynddo. Mae’r ffeil Cymraeg Audacity.mo i’w chael yn fan hyn.

Yna agorwch Audacity a chlicio ar Edit>Preferences>Interface>Languages a dewis Welsh.

Cyfieithiad Cymraeg:
foo