Cam 3: Pori’r We
Mae yna gwmnïau mawr fel Google a’ch cwmni darparu gwasanaeth rhyngrwyd sy’n tracio’ch hanes pori pedair awr ar hugain y dydd ac yn gallu creu darlun y mae modd ei ddefnyddio’n ar gyfer eich annog i dderbyn syniadau eithafol, i feddwl am brynu pethau diangen ac i’ch digalonni. Mae nhw hefyd yn cynorthwyo llywodraethau sy’n cadw llygaid barcud ar weithgareddau eu dinasyddion.
Sut mae cadw’n fwy preifat ar-lein
- Peidiwch defnyddio porwyr Google Chrome neu Chromium, defnyddiwch Mozilla Firefox (mae’n gynt na Chrome) neu borwr Tor am ddiogelwch uwch.
- Peidiwch cadw eich storfa neu hanes, os ydych am wneud, cofiwch ei ddileu’n aml.
- Dewiswch beiriant chwilio DuckDuckGo. Mae DuckDuckGo yn beiriant chwilio sydd ddim yn cadw dim o’ch data. Bydd yn wahanol i ddechrau ond byddwch yn arfer ag e, ac mae’r canlyniadau’n debyg iawn i rhai Google, ond heb gadw cofnod o’ch chwilio.
- Os rydych yn ddefnyddiwr uwch, defnyddiwch VPN. Byddwch wyliadwrus o VPN am ddim, talwch am un da.