Ivona

System synthesis llais amlieithog yw IVONA. Mae amryw o ieithoedd a lleisiau ar gael gan y cwmni gan gynnwys y Gymraeg. Drwy gysylltu’r lleisiau i ddarllenwyr e-lyfrau, e.e. FBReader, mae modd cael y stori wedi ei ddarllen i chi yn Gymraeg. Mae ansawdd y lleisiau yn dda. Mae’r lleisiau Cymraeg, Gwyneth a Geraint yn seiliedig ar waith yr Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Cychwyn arni:
1. Gosodwch IVONA Text-to-Speech HQ ar eich dyfais Android o GooglePlay
2. Dewiswch a gosod eich dewis iaith a llais o Google Play
3. Ar ôl eu llwytho i lawr, cychwyn yr ap IVONA i gwblhau’r gosod
4. Yna, dewis peiriant IVONA TTS fel eich peiriant rhagosodedig drwy fynd i Android Settings

Ivona