Simplenote

Rhaglen cadw nodiadau yw Simplenote. Mae’r ap ar gael yn Gymraeg ar gyfer iOS yn unig, ond mae hefyd ar gael yn Saesneg ar Android, OS X, Kindle ac ar eich porwr. Mae yna fersiwn premiwm sy’n cynnwys cydweddu gyda Dropbox. Mae’n wasanaeth gwe sy’n cydweddu’r nodiadau yn eich cyfrif fel eu bod ar gael ar draws dyfeisiau beth bynnag yw’r system weithredu. Gallwch rannu nodiadau gyda phobl eraill sy’n defnyddio’r gwasanaeth, chwilio drwyddynt yn hawdd, ac mae’r cyfan am ddim.

Simplenote