Kodi

Mae Kodi (gynt XBMC) yn chwaraewr cyfrwng cod agored datblygwyd gan y XBMC Foundation. Mae Kodi ar gael ar gyfer amryw o systemau gweithredu a phlatfformau caledwedd, ac yn cynnig rhyngwyneb defnyddiwr 10′ ar gyfer setiau teledu a rheolyddion pell. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr chwarae a gwylio’r rhan fwyaf o gyfrwng ffrydio, megis fideos, cerddoriaeth, podlediadau o’r we, yn ogystal â ffeiliau digidol cyffredin oddi ar gyfryngau storio rhwydwaith a lleol.

Mae’n ddewis arall yn lle’r Windows Media Center oedd ar gael cyn dyfodiad Windows 10. Mae Kodi’n hynod gyfaddasadwy: mae amrywiaeth o grwyn ar gael i newid ei wedd ac mae ategion amrywiol ar gael i ganiatáu mynediad at ffrydio cynnwys cyfrwn o wasanaethau ar-lein, megis, Amazon Prime Instant Video, Crackle, Pandora Internet Radio, Rhapsody, Spotify, ac YouTube. Mae’n cynnig blaen graffigol PVR (recordydd fideo personol) er mwyn derbyn teledu byw gydag amserlen rhaglen ddigidol (EPG) a chefnogaeth ar gyfer recordydd fideo digidol  (DVR).