Star Downloader Lite

Os ydych am lwytho rhai o’r rhaglenni oddi ar y safle hwn yna bydd angen Star Downloader arnoch. Os ydych wedi cael y profiad o golli pecyn wrth ei lwytho i lawr yna mae Star Downloader yn hanfodol. Mantais mawr Star Downloader yw ei fod yn cyfuno’n awtomatig gyda Firefox, Opera ac Internet Explorer gan gydweithio’n hapus.

Panel Dewisiadau lle mae modd ei drefnu i wneud yr hyn sy’n gyfleus – i chi.

Mae’r pecyn iaith i’w gael yma.

Rhowch y ffeil o fewn C:/Program Files/Star Download/Translations ac yna ail gychwyn y rhaglen. Ewch i File ac yna Options. Ewch lawr y rhestr dewis i Languages dewiswch Welsh ac ailgychwyn y rhaglen.