Disqus

Gwasanaeth cynnal sylwadau ar-lein yw Disqus. Mae’n cael ei ddefnyddio’n eang gydag amryw o bapurau newydd a chylchgronau led-led y byd. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys amryw o nodweddion gan gynnwys integreiddio cymdeithasol, rhwydweithio cymdeithasol, proffiliau defnyddwyr, offer rhag sbam a chymedroli, dadansoddi data, hysbysu e-bost a sylwadau o ddyfeisiau symudol. Mae’n cael ei ddefnyddio gan Golwg360, fel yn y llun isod.

Disqus