Firefox Android

Mae’r porwr gwe Cymraeg cyntaf ar gyfer ffonau symudol a thabledi – Firefox Android, wedi ei ryddhau. Mae Firefox Android ar gael o’r Google Play Store ar gyfer pob dyfais sy’n rhedeg Android 2.2 neu well.

Mae Firefox Android yn borwr gwe rhydd a rhad sy’n rhoi grym y we agored yn eich dwylo. Mae’r porwr yn gyflym, hawdd ei ddefnyddio a hawdd ei gyfaddasu gyda’r nodweddion diogelwch a phreifatrwydd i’ch helpu i fod yn ddiogel ar y we.

Rhyngwyneb a dewislen offer Firefox Android

Rhyngwyneb a Dewislen Firefox Beta

Cyfarwyddiadau gosod:

Gwiriwch i weld os yw Firefox Android yn gyfaddas â’ch dyfais.

Mae Firefox Android angen Android 2.2 neu ddiweddarach a thua 29 MB o le sbâr. Mae’n rhedeg orau ar ddyfeisiau gydag o leiaf 384 MB o RAM. Mae Mozilla’n darparu rhestr o ddyfeisiau sy’n cael eu cynnal.

Gosodwch Firefox Android o’r Google Play Store

Firefox Beta - Dewis iaith

Bydd yr ap yn agor yn Saesneg. I ddewis y rhyngwyneb Cymraeg, ewch i Settings>Language. Bydd dalen Browser Language a System Default yn ymddangos. Pwyswch ar System Default a bydd dewis o ieithoedd yn ymddangos. Sgroliwch lawr i Welsh. Pwyswch ar y cylch bach nes ei fod yn troi’n las. Bydd y sgrin yn newid i’r Gymraeg. Bosib bydd angen ailgychwyn y rhaglen neu hyd yn oed y ddyfais i gael y Gymraeg i ymddangos. Mwynhewch!

Mae yna ragor o wybodaeth am waith Mozilla ar eu gwefan Cymraeg.