Mae sawl fersiwn o Microsoft Windows ar gael yn Gymraeg erbyn hyn. Rhaid llwytho’r pecyn iaith i lawr o’r we a’i osod â llaw gan nad yw’n ddewis sydd ar gael ar gyfrifiadur newydd neu ar y ddisg osod.
Mae g wahanol fersiynau o Windows XP, Windows Vista, Windows 7 a Windows 8 yn ogystal ar gael yn Gymraeg yn ogystal â Internet Explorer 10 ar gyfer Windows 7, Office XP, Office 2003, Office 2007, Office 2010 a Office 2013 a SharePoint 2010. Mae Microsoft yn darparu pecyn iaith ar eu cyfer a rhaid eu llwytho i lawr a’u gosod ar eich cyfrifiadur.
Mae modd dewis yr un cywir o dudalen Canolfan Llwytho i Lawr Microsoft
Newch chi’m sillafu gair yn angharad fyth eto!








Fersiwn 64-did o Windows Vista sydd gyda fi. Ydy hynny’n golygu nad yw’n bosib Cymreigio’r rhyngwyneb, er bod modd gwneud ar gyfrifiaduron llai pwerus?
Yn ôl cyfarwyddiadau Microsoft:
Llwyfannau a gefnogir: Dim ond gyda fersiynau 32-did o Windows Vista y gall Pecynnau Rhyngwyneb Iaith weithio a does dim modd eu gosod ar fersiynau blaenorol o Windows nac ar fersiynau 64-did o Windows Vista.
Na, felly yn anffodus. Mae ar gael ar gyfer Windows 7 64-did.
Helo. Rwy’n rhedeg Windows 7, fersiwn 64-did ac newydd lawrlwytho’r sillafydd ar gyfer fy fersiwn o Office XP (Word yn benodol). Y broblem sydd gennyf yw nad yw’n gweithio. Rwy wedi dilyn bob hynt a awgrymir gan Microsoft, ond nid wyf wedi dod o hyd i lonydd!
Oes awgrymiadau gennych, Meddal? Diolch.
Oes unrhyw newyddion am becyn iaith ar gyfer Windows 8?
Dim hyd y gwn i – does gen i ddim cyfrifiadur sy’n rhedeg Windows 8. Aeth 2 – 3 mis heibio cyn i becyn iaith Windows 7 ymddangos.
Mae holl offer Cymraeg Microsoft gan gynnwys Windosw 8, Office 2013 a lot o bethau eraill ar gael o’u Canolfan Llwytho i lawr yn:
http//:www.http://www.microsoft.com/downloads/Search.aspx?displaylang=cy