Facebook: rhaid i hyn beidio â digwydd eto – Mozilla

Gan | 26/03/2018

Neges gan Mozilla:

Mae hyd at 50 miliwn o ddefnyddwyr Facebook wedi dioddef cael  Cambridge Analytica, sy’n gwmni preifat, yn defnyddio eu manylion personol heb iddyn nhw wybod na chytuno. Tydi hynny ddim yn iawn.

Nid dwyn data oedd hwn, doedd neb wedi torri i mewn i Facebook na dwyn cyfrineiriau. Digwyddodd hyn oherwydd bod Facebook wedi caniatáu i apiau gael mynediad nid yn unig i fanylion sensitif bobl sy’n  defnyddio’r rhaglen – ond eu ffrindiau hefyd.

Mae Facebook yn dweud eu bod wedi cymryd camau i “limit developer access to detailed friend data”, ond mae gosodiadau rhagosodedig presennol Facebook yn codi lot o gwestiynau ac mae ‘na lot o ddata’n fflio o gwmpas. Mae un peth yn glir serch hynny: mae angen i Facebook symud a pharchu ei ddefnyddwyr.

Hoffech chi ychwanegu eich enw i’n deiseb yn gofyn i Facebook newid caniatâd ei apiau a sicrhau fod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu’n ddi-gwestiwn?  

Mae dros 45,000 eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb ac mae Facebook yn teimlo’r pwysau – maen nhw wedi cysylltu á Mozilla i ddweud eu bod wedi clywed ein llais.

Mae’r caniatâd rhagosodedig y mae Facebook yn eu dangos yn cynnwys rhannu data am eich addysg, gwaith, lle rydych yn byw a chofnodion ar eich llinell amser. Synnu? Ni hefyd. Mae Facebook yn dweud nad yw’r gosodiadau’n adlewyrchu’n union y rhannu data.

Maen nhw’n dweud eu bod yn gweithio i drwsio hyn a byddwn yn cadw’r pwysau arnyn nhw fel eu cod yn cadw at eu gair. Hoffwn ni weld ymroddiad i fod yn fwy tryloyw ar hyn gan Facebook ac mae angen i ni gadw pwysau arnyn nhw cyn bod y penawdau’n diflannu i wneud yn siŵr fod Facebook yn gweithredu.

Hoffech chi ychwanegu eich enw i’r ddeiseb er mwyn i ni gyrraedd 100,000 o lofnodion?

A wnewch chi rannu’r neges yma gyda theulu a ffrindiau er mwyn sicrhau fod pawb yn deall y sefyllfa, hyd yn oed os nad ydych chi am lofnodi’r ddeiseb.

Diolch.

3 sylw ar “Facebook: rhaid i hyn beidio â digwydd eto – Mozilla

  1. Rhos Awdur cofnod

    Mae modd i mi wneud ymholiadau. Roeddwn i wedi addasu’r wybodaeth o ddeunydd ddaeth i mi gan Mozilla fel cefnogwr cyffredin. Dwi wedi bod yn annog tim lleoleiddio Mozilla i ehangu eu gwaith o gyfieithu a lleoleiddio eu negeseuon am ddiogelwch ar y we, yn arbennig ar gyfer cymunedau ieithoedd lleiafrifol. Mae hyn oherwydd fod yna lai o leisiau sy’n rhybuddio’r cymunedau hynny o’r peryglon gwirioneddol i bobl ar y we. Dwi wedi cael gwrandawiad – dyna pam ryddhawyd Firefox Focus fel ap amlieithog llawn, ond mae yna dipyn o ffordd i fynd i godi ymwybyddiaeth ac i greu peirianwaith i gyflawni hyn. Mae’r drws ar agor ac mae yna ewyllys yno…

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *