Joomla!

Gan | 06/03/2018
System rheoli cynnwys safonol ar gyfer creu safleoedd gwe syml neu gymhleth yw Joomla. Mae’n addas ar gyfer sefydliadau bach a mawr.
Mae modd ymestyn Joomla drwy gannoedd o estyniadau (rhad neu fasnachol) i ganiatáu creu pob math o wefannau.
Mae Joomla fel arfer yn cael ei ystyried yn ychydig yn fwy cynhwysfawr na WordPress ond angen ychydig fwy o ddealltwriaeth technegol i’w ddefnyddio.  Yn hyn o beth mae’n sefyll rhwng WordPress a Drupal.
Mae’r deunydd Cymraeg ar gyfer Joomla i’w cael o’u gwefan.
Gellir cysylltu a thîm cyfieithu Joomla ar cyfieithu@joomla.cymru.  Bydd gwefan gan y tîm yn fuan ar www.joomla.cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *