Hacio’r Iaith 2016

Gan | 08/04/2016

Bydd Hacio’r Iaith 2016, y seithfed digwyddiad blynyddol, yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.

Y dyddiad i’w roi yn eich dyddiadur yw:
dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016
9yb tan 5yp

a’r lleoliad yw:
Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Ffordd Maindy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ

Mae’n gyfle gwych i gyflwyno eich gwaith, cael ymateb i’ch prosiectau, bod yn ofod i brofi/arbrofi, cynnal gweithdai, a rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n eich tanio ym maes technoleg ac iaith.

Ond yn bwysicaf oll, mae’n gyfle i fwynhau sgwrs gyda phobl newydd a chyfarwydd sydd efo’r un brwdfrydedd â chi dros y maes.

Cofrestrwch drwy wefan Haciaith

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *