Croeso Macsen!

Gan | 19/03/2016

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, wedi ryddhau gwybodaeth am eu datblygiad diweddaraf, sef  adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Mae hwn yn ddatblygiad cyffroes ar gyfer datblygu technoleg flaengar sy’n cynorthwyo siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio teclynnau technoleg.

Macsen
Mae’r project wedi cynhyrchu prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o’r enw ‘Macsen’ yn gallu ateb cwestiynau llafar, er enghraifft beth yw’r newyddion neu’r tywydd, a hefyd fersiwn alffa o system drawsgrifio Gymraeg, ynghyd â’r modelau acwstig, modelau iaith a chorpws llafar ddefnyddiwyd i greu’r rhain.

Mae technoleg llais yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.

Fe eglurodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd y project, “Y bwriad yw rhoi mynediad rhad ac am ddim at yr adnoddau hyn drwy’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol, fel bod datblygwyr meddalwedd, cwmnïau mawr rhyngwladol a chwmnïau bach lleol, clybiau codio, hacwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu meddalwedd Cymraeg yn medru’u cymryd, eu datblygu ymhellach a’u cynnwys o fewn eu meddalwedd eu hunain.”

Yn ôl Dewi Bryn Jones, “Mae’r data, y cod ffynhonnell, nodiadau defnydd a gwybodaeth ddefnyddiol arall yn cael eu cadw o fewn Github, storfa ar y we sy’n cael ei defnyddio’n helaeth gan ddatblygwyr. Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn yn dangos ac yn defnyddio’r adnoddau hyn yn Hacio’r Iaith yngNghaerdydd, ar yr 16 Ebrill eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiad hwnnw.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *