Archifau Categori: iPhone

Firefox Focus iOS

Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a’r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall. Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw’n cael eu tracio na’u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae’r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu’r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.… Darllen Rhagor »

WordPress iOS ar gael yn Gymraeg

Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch. Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress. Dyma’r cyflwyniad swyddogol: Mae ysbrydoliaeth yn… Darllen Rhagor »

Cymraeg ar yr iPhone

Does dim rhyngwyneb Gymraeg ar gael ar gyfer yr iPhone, ond mae modd newid rhai o osodiadau’r system i’r Gymraeg, gan gynnwys enwau’r dyddiau a’r misoedd yn y calendr. I newid y gosodiadau, ewch i sgrin gartref  yr iPhone a dewis: Settings > General > International > Region Format > Welsh (United Kingdom) Wedi i… Darllen Rhagor »