Archifau Categori: Rhyngrwyd

Porwr gwe poblogaidd sy’n gyflym a diogel

Cadw Google a Facebook yn eu lle…

Wyddoch chi fod cwmnïau mawr y we yn eich dilyn o amgylch y we, yn casglu tystiolaeth o’ch ymddygiad ar-lein ac yn ei werthu i hysbysebwyr? Mwyaf o ddata sydd gan hysbysebwyr mwyaf effeithiol mae nhw’n credu y gallan nhw eich targedu. Mae’n fusnes mawr, mae’r biliynau o elw wnaeth Google a Facebook yn seiliedig… Darllen Rhagor »

Cystadleuaeth Fideo Firefox

Mae Firefox yn rhedeg cystadleuaeth fideo 16 eiliad Firefox Fights for You ym mhob iaith posib. Byddai’n grêt cael rhai Cymraeg – beth amdani! Manylion creu’r fideo a’r testun: https://events.mozilla.org/firefoxfightsforyoucampaign

Adnoddau Codio yn Gymraeg

Dyma restr o rai o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio yn Gymraeg ac i godio yn Gymraeg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddeunydd Scratch, Kodu, Python, ac ati. Hefyd, mae gwybodaeth am yr pyrth gwybodaeth sydd ar gael sy’n cynnwys meddalwedd codio Cymraeg. Mae’r rhestr wedi ei llunio gan Gareth Morlais o Uned y… Darllen Rhagor »

Firefox Monitor

Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg ar y Radio!

Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau. Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen. Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu… Darllen Rhagor »

Common Voice Cymraeg – Gwrando

Common Voice yw’r cyfle gorau ar hyn o bryd i sicrhau fod y Gymraeg yn mynd i gael ei ddeall gan beiriannau digidol yn y dyfodol. Mae trwydded Common Voice yn un agored, sy’n golygu ei fod ar gael i ddatblygwyr bach a mawr i wneud defnydd ohonon. Po fwyaf o leisiau ac acenion sydd… Darllen Rhagor »