Archifau ‘Dim Categori’
Opera 11 alpha
Tra bod ni'n disgwyl am Firefox 4 dyma ffeil iaith Cymraeg ar gyfer Opera 11 alpha. Mae manylion llawn ar gyfer nodweddion Opera 11 alpha ar gael oddi ar eu gwefan.
Dyfodol Mandriva – Mageia Linux?
Yn sgil diswyddo staff o gwmni cysylltiol Edge-IT sefydlwyd dosbarthiad newydd gan y staff oedd wedi cael mynd. Nid yw'n amlwg sut fydd Mandriva Linux yn gallu goroesi. Cryfder cod agored yw bod modd i'r cyn aelodau o staff gychwyn o'r newydd gyda'r meddalwedd ond bydd yn her go sylweddol.







