Archif Awdur: Rhos

Mae’n Wythnos Codio!

Fel rhan o wythnos codio mae Scratch yn cynorthwyo plant a pobl ifanc i ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae gan y RaspberryPi Foundation llwythi o ddeunyddiau Cymraeg ar eu gwefan ar gyfer chwarae/arbrofi. Cofiwch fod modd arbrofi gyda Scratch 3 Beta, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg. Cliciwch y… Darllen Rhagor »

Pobl Cymru, mae’n amser codi eich llais – fel bod peiriannau’r dyfodol yn ein deall ni.

Sut fyddwch chi’n siarad gyda’ch gweision? Ddim yn gwestiwn cyffredin y dyddiau hyn ond yn y dyfodol efallai. Ac mae’n well paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw nawr. Yn ddiweddar, mae Mozilla, y sefydliad rhyngrwyd Americanaidd sy’n cynhyrchu Firefox a Thunderbird, anogwyr preifatrwydd a diogelwch ar-lein, wedi lansio estyniad o’u hymdrechion i greu offer i’ch… Darllen Rhagor »

Google Calendar nawr yn Gymraeg!

Mae Google Calendar nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd agor y rhyngwyneb Cymraeg drwy Settings>Language & Region a dewis Cymraeg. Mae ange ail-lwytho’r dudalen a bydd y Gymraeg yn weladwy. Mae nifer o raglenni Google nawr ar gael yn Gymraeg – Mail, Contacts a Maps. Calendr Google Gosodiadau Diolch i @DewiEirig am y wybodaeth

Thunderbird 60

Ar ôl hir aros mae Thunderbird wedi ei ddiweddaru ac mae’n edrych fel bod bywyd yn yr hen dderyn o hyd! Mae Thunderbird 60 i’w gael o wefan Cymraeg Thunderbird. Mae’r newidiadau yn niferus ac yn amrywiol ac mae cofnod llawn ohonynt i’w gweld yn y Nodiadau Ryddhau.

Gutenberg – golygydd newydd WordPress

Mae WordPress wedi bod yn gweithio ar eu golygydd newydd ers rhai misoedd ac rydw i wedi bod yn ei gyfieithu wrth iddo gael ei ddatblygu. Bwriad WordPress yw creu peiriant llunio gwefannau lle nad oes angen bod â meistrolaeth o HTML a CSS fel sydd ar hyn o bryd. Gan fod y golygydd newydd… Darllen Rhagor »

LibreOffice 6.1

Cafodd LibreOffice 6.1 ei ryddhau yn ystod mis Awst ac yn cynnwys nifer o welliannau wedi eu hawgrymu gan y gymuned. Mae modd gweld gwybodaeth am y newidiadau hyn ar wefan LibreOffice Cymraeg. Mae’n cynnwys newid i thema rhyngwyneb LibreOffice. Mae trin delweddau wedi ei wella, gan wneud y rhaglen yn gynt a mwy ymatebol,… Darllen Rhagor »

Firefox 62.0

Mae Firefox 62.0 wedi ei ryddhau heddiw ac yn cynnwys rhai newidiadau i’r porwr gwe Cymraeg poblogaidd. Mae’r porwr ar am ddim gael o https://www.mozilla.org/cy/ Y prif newidiadau yw: Hyblygrwydd newydd yn nhudalen tab cynnwys Firefox, lle mae modd cuddio neu amrywio’r hyn sy’n cael ei ddangos ar dudalen Tab Newydd. Mae modd gwneud y… Darllen Rhagor »

Linux Mint 19 “Tara” Cinnamon

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd yn cael ei gynnal tan… Darllen Rhagor »