

Mandriva Linux
Mandriva Linux, yr amgylchedd Cymraeg cynhwysfawr cyntaf ar gyfer y cyfrifiadur.
Mae Mandriva yn un o'r dosbarthiadau hawsaf i'w defnyddio ac yn addas ar gyfer dechreuwyr ac arbennigwyr. Mae'n cynnig offer unigryw er mwyn ei gwneud hi'n hawdd i osod y cyfeiriadur yn ôl eich dymuniad ac i drin unrhyw anhawsterau sy'n codi.
Fel rhan o'r pecyn Mandriva mae cannoedd o raglenni defnyddiol, gan gynnwys Firefox, OpenOffice.. Mae amryw o raglenni ar gael yn Gymraeg gan gynnwys rhyngwyneb Gnome, rhaglenni KDE ac OpenOffice.org.
Mae Mandriva yn dod mewn 3 pecyn gwahanol. Mandriva One sy'n CD byw er mwyn ei brofi neu ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron dieithr neu'r system llawn ar ffurf 4 CD neu 1 DVD. Mae nhw i gyd i'w gweld ar safle ftp esat.net o fewn y logo llwytho i lawr. Bydd angen eu llosgi i CD neu DVD cyn gosod y disg yn eich cyfrifiadur. Mae modd cael copi oddi ar glawr cylchgrawn cyfrifiadurol.