english information
croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Dyma gyfeiriadur o raglenni difyr a defnyddiol sydd ar gael yn Gymraeg ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae'r dudalen yma'n cyfeirio at yr hanfodol - mae yna lwyth o rai eraill i'w gweld wrth glicio ar fotwm rhaglenni ar y chwith

Dyma'r rhaglenni sy’n addas ar gyfer y tasgau mwyaf cyffredin ac mae pob un ar gael ar gyfer Windows Vista, Windows XP, yr Apple Mac a Linux.

* Ysgrifennu llythyr neu adroddiad? - beth am ddefnyddio OpenOffice.org.

* Crwydro’r we? - mae Firefox yn boblogaidd, cyflym a diogelach

* Derbyn ac anfon e-byst? - mae Thunderbird yn rheoli spam ac yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg.

* System gyfan? - mae Microsoft yn darparu Windows Vista ac XP yn Gymraeg ac mae systemau Linux megis Mandriva ac Ubuntu ar gael. Ychydig o ddarpariaeth sydd gan yr Apple Mac, yn anffodus.

newyddion

Byddwn yn ceisio cynnig newyddion am raglenni newydd a'r fersiynnau diweddaraf o'n hoff raglenni, felly cofiwch ddod nôl yn rheolaidd. Os oes rhywbeth yn dal eich sylw, cysylltwch â ni.

lle mae dechrau?

Gosod y tair rhaglen yma:

* Firefox - er mwyn crwydro’r we

* OpenOffice.org neu NeoOffice ar gyfer y Mac - casgliad o offer swyddfa ar gyfer ysgrifennu llythyron ac adroddiadau yn cynnwys gwirydd sillafu Cymraeg. Mae OpenOffice.org Dwyieithog ac OpenOffice.org Agored ar gael hefyd

* Thunderbird - man diogel i drin eich e-byst, gyda gwirydd sillafu Cymraeg

Enghraifft yn Windows a'r Mac:

1. Cliciwch ar enw Firefox i fynd i dudalen y rhaglen a dilyn y cysylltiad yn ei flaen
2. Crëwch ffolder ar gyfer Ffeiliau o’r We ar eich bwrdd gwaith
3. Llwythwch y rhaglen i lawr i’r ffolder hwnnw
4. Cliciwch ar y ffeil weithredu -.exe ar gyfer Windows neu .dmg ar gyfer y Mac a dilyn y cyfarwyddiadau

Pethau ychwanegol yn Windows:

* Microsoft Vista ac XP - mae’r pecyn iaith ar gyfer defnyddwyr Vista ac XP ar gael er mwyn troi eich system Windows yn Gymraeg. Rhaid gosod pecyn SP2 yn gyntaf ar gyfer XP.

* Microsoft Office - mae pecyn iaith ar gyfer Office 2003 a 2007 hefyd yn cynnwys gwirydd sillafu sy’n gweithio’n effeithiol iawn. Mae gwirydd ar gael ar gyfer Office XP hefyd

* Canolfan Rheoli Iaith - ffordd o newid rhyngwyneb Windows Vista ac XP yn hawdd nôl ag ymlaen rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Delfrydol ar gyfer sefyllfaoedd dwyieithog

* Cysgliad - mae’n cynnig gwirydd sillafu a gramadeg, geiriaduron a thesawrws. Rhaid talu am y fersiwn Windows ond mae’n gweithio’n effeithiol o fewn OpenOffice.org a Microsoft Office a drwy drefniant y 'bysell boeth' gyda nifer fawr o raglenni eraill. Mae fersiwn Mac ar gael hefyd.

* To-bach - rhaglen gosod acenion cyffredin Cymraeg, gan gynnwys to bach ar yr w a'r y

hefyd, beth am ddarllen ...

* Cyflwyniad PowerPoint ar Gymreigio'ch Cyfrifiadur (Windows) gan Fwrdd yr Iaith

beth am rywbeth hollol wahanol?

Beth am drio Linux?

Mae'r dosbarthiadau isod yn cael eu dosbarthu ar ffurf CD byw fel bod modd i chi eu treialu. Y ffordd hawsaf i gael gafael arnynt yw oddi ar ddisgiau cylchgronau cyfrifiadurol.

* Mandriva Linux

Dyma'r dosbarthiad sy'n cynnwys y mwyaf o Gymraeg, y rhyngwyneb cynhenid, rhyngwyneb Gnome, nifer o raglenni KDE ac OpenOffice.org yn Gymraeg.

* Ubuntu

Un o’r systemau Linux mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd. Gosodwr a rhyngwyneb bwrdd gwaith Gnome yn Gymraeg. Mae’n cynnwys y prif raglenni - Firefox ac OpenOffice.org (yn Saesneg) ar y CD byw. Bydd modd gosod OpenOffice.org Cymraeg wrth osod y system ar eich cyfrifiadur.

* Fedora

Mae cyfran reit sylweddol o Fedora ar gael yn Gymraeg, eto defnyddiwch ryngwyneb Gnome.

Mae modd defnyddio rhaglen Wine i osod rhai rhaglenni Windows megis Cysgliad ar Linux.

 

Ebrill 2008

Abiword 2.6

Mawrth 2008

OpenOffice.org 2.4

Newydd!
Cysgliad i'r Mac

Cysgliad Windows

Cysgliad a Google Maps

Wordpress 2.2.3

Rhagfyr 2007

Rhyngwyneb Cymraeg Vista ac Office 2007

Hydref 2007

OpenOffice 2.3

Medi 2007

Limewire

Mandriva

Ubuntu

Awst 2007
Meddal yn yr Eisteddfod !

Posteri Meddal

Netvibe

Gorffennaf 2007
Geiryn

WordPress 2.2.1

Joomla

Moodle

Mehefin 2007
Thunderbird 2.0

Dasher

OpenOffice.org 2.2.1

Ebrill 2007

Blog Ubuntu Cymraeg

Nireblog

Opera 9.20

Ubuntu 7.04

Mandriva Linux 2007 Spring

OpenOffice.org 2.2

Mawrth 2007

Monitor Cymru

NeoOffice 2.1

Arolwg ar Hybu Technoleg Cymraeg
Doh!

Windows Vista
Y diweddaraf!

Chwefror 2007

Firefox 2.0

Abiword

PBwiki

Media Player 11 ac Internet Explorer 7 Rhybudd!

Ionawr 2007

Abiword 2.50

Edgair

Readspeaker

Rhagfyr 2006

OpenOffice.2.1

Opera 9.10