

Yn wahanol i Windows mae Linux yn medru cynnig rhyngwynebau amrywiol i ddefnyddwyr. Ar hyn o bryd y ddau brif ryngwyneb yw KDE a Gnome ac mae'r rhain i'w cael yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Linux. Mae'r gwahaniaeth yn tarddu o'r drafodaeth ynglyn ag annibyniaeth y cod ffynhonnell.
Yyn wreiddiol roedd rhywfaint o god KDE nad oedd yn rhydd--mae wedi cael ei ryddhau erbyn hyn. Parodd hyn i rai unigolion ddod at ei gilydd i greu Gnome fel darn o feddalwedd gwbl rhydd. Mae yna wahaniaeth mewn arddull a golwg ond mae'r ddau yn gweithio oddi ar gnewyllyn Linux, yn cystadlu ac yn cydweithredu i ddarparu rhyngwynebau effeithiol a hawdd eu defnyddio.
Mae gwaith trosi Gnome i'r Gymraeg yn mynd yn ei flaen. Mae gwybodaeth ar fersiwn 2.14 ar gael.
Gwybodaeth i'w gael ar wefan GNOME CY yma
.