croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Firefox

Llwytho Firefox i lawr

Mae gan Firefox rhyngwyneb hawdd ei ddeall ac mae'n rhwystro firysau, rhaglenni ysbio a llamlenni. Mae'n cynhyrchu tudalennau gwe yn gynt nag erioed ac mae'n hawdd i osod a mewnforio eich hoff gyfeiriadau gwe. Mae'n llawn o nodweddion defnyddiol fel pori gyda tabiau, Nodau Tudalen Byw a bar Chwilio initgredig, bydd Firefox yn newid y ffordd fyddwch yn profi'r we, er gwell.

Rhyngwyneb Firefox 2.0

Dyma'r ffordd orau i grwydro'r we.

Dewisiadau Firefox 2.0

Gosod y Gymraeg

Mae'r rhaglen a'r drefn osod yn gweithio ar gyfer Windosw, Mac a Linux.

Yn gyntaf, rhaid gosod Firefox 2.0 Saesneg. Ewch i safle Firefox i'w nôl.

Yna, er mwyn gallu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg ac yn ôl mae angen gosod estyniad o'r enw Locale Switcher. Ar rhyngwyneb Firefox ewch i Tools > Add-ons a chlicio ar Get Extentions ar waelod dde'r ffenestr. Os ydych ar y we bydd tudalen Extentions yn agor. Cliciwch ar Languages a chwilio am Locale Switcher 2.0 gan anwybyddu'r estyniadau diddorol eraill!

Locale Switcher

Cliciwch Install now a gadael i Firefox osod yr estyniad.

Y cam nesaf fydd gosod y pecyn iaith. I gael y pecyn iaith Cymraeg mae angen dilyn yr un cyfarwyddiadau ag uchod. Ar rhyngwyneb Firefox ewch i Tools > Add-ons a chlicio ar Get Extentions ar waelod dde'r ffenestr. Os ydych ar y we bydd tudalen Extentions yn agor. Cliciwch ar Languages a chwilio amdano neu cliciwch fan hyn.

Pecyn Iaith Cymraeg Firefox

Cliciwch Install now ar y dudalen we a bydd Firefox yn gosod y pecyn iaith. Unwaith y bydd wedi ei osod bydd angen ailgychwyn Firefox sicrhau fos yr iaith cywir wedi ei dewis. Os nad, ewch i Tools>Addons>Language a dewis y Gymraeg.

Gwirydd Sillafu Firefox

Mae marnanel wedi creu gwirydd sillafu yn seiliedig ar wirydd Gwe-lywiwr ac OpenOffice.org i weithio o fewn Firefox ac mae ar gael o adran geiriaduron Firefox.