croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Fedora

Llwytho i Lawr

Mae Fedora yn system weithredu Linux poblogaidd. Mae'n ddosbarthiad datblygiadol ar gyfer cwmni Red Hat sydd wedi ei anelu at y defnyddiwr cyffredin. Prif faes cynnyrch Red Hat yw meddalwedd ar gyfer cwmniau masnachol.

Bwrdd Gwaith Fedora

Mae'r dosbarthiad yn cynnwys amrediad eang o ragelnni defnyddiol megis Firefox, Thunderbird, OpenOffice.org yn ogystal ag amryw o raglenni llai. Mae Fedora fel dosbarthiadau eraill yn gwneud defnydd o Gnome a KDE fel rhyngwynebau cyffredinol. Mae yna gynllun cyfieithu Fedora mewn bodolaeth ac mae rhywfaint o'i ryngwyneb ar gael yn Gymraeg.

OOo Fedora

Mae'r dosbarthiad ar gael ar 3 CD oddi ar y we o safle gwe Fedora. Mae'n werth cael golwg arno os ydych yn dewis system gyfrifiadurol Linux. Mae llawer mwy o wybodaeth i'w gael oddi ar y safle honno.