croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Rhedeg Cysgliad ar Linux

Rhys Jones

Sut i redeg demo Cysgliad (Cysill 3 + Cysgeir) ar Linux

(Mae'r erthygl yn hen braidd erbyn hyn ond gall fod yn sail ar gyfer gosod Cysgliad ar fersiynnau gwahnol o Linux. Hyd y gwn i does dim fersiwn demo o Cysgliad ar gael ar hyn o bryd.)

Fersiwn 0.1 Rhys Jones (rhys@sucs.org), 2ail Chwefror 2005

Diolch i David Chan am y syniad gwreiddiol o ddefnyddio Wine

Sylwer mai cyfarwyddiadau answyddogol yw’r rhain. Rwyf o’r farn eu bont yn ddefnyddiol, ond does dim gwarant yn perthyn iddyn nhw. Nid canllaw swyddogol o Ganolfan Bedwyr yw hwn, ac nid yw Canolfan Bedwyr yn gyfrifol am unrhyw golled ddaw o’i ddilyn. Mae pob nod masnachu ddefnyddir yn y ddogfen hon yn eiddo i’w perchnogion perthnasol.

Cwmpawd

Mae’r cyfarwyddiadau yma wedi eu profi ar system sy’n rhedeg Fedora Core 3. Mae angen eu profi ar osodiadau Linux eraill. Os yw’r dosbarthiad yn defnyddio pecynnydd RPM (mae Mandrake a SuSE yn gwneud), mi ddylai’r camau fod yr un fath.

Cefndir

Mae Cysgliad yn medru rhedeg ar Linux mewn efelychydd o’r enw Wine. Mae Wine yn medru dynwared Windows heb ddefnyddio’r un darn o gôd Windows ei hun, felly mae’n rhad a rhydd i bawb. Mae Wine yn gadael i Cysgliad redeg yn ei ffenestri ei hun. Gellir torri a gludo o Cysill i raglenni Linux, ac o raglenni Linux i mewn i Cysill. Felly’r hyn sydd raid ei wneud er mwyn rhedeg Cysgliad ar Linux yw rhoi Wine ar y peiriant, sefydlu Wine (mae modd gwneud hyn yn hawdd drwy raglen o’r enw Winetools), a rhedeg y demo o fewn Wine.

Cam 1: Lawrlwytho’r pecynnau

Bydd angen y canlynol arnoch er mwyn gosod Wine a Cysgliad. Trwy borwr gwe, arbedwch y ffeiliau canlynol i ffolder arbennig.

a) Y gosodiad perthnasol o Wine ar gyfer eich system (gweler http://www.winehq.com/site/download)

b) RPMau o Xdialog ac wxGTK. Ar systemau Fedora a Mandrake o leiaf, mae angen y rhain cyn medru rhedeg wineconf, oni bai eu bont wedi eu gosod yn barod (gweler http://dag.wieers.com/packages/xdialog/ a http://dag.wieers.com/packages/wxGTK/ ar gyfer Fedora. Rhaid chwilio ar http://rpmfind.net/ ar gyfer fersiynau Mandrake)

c) Y gosodiad perthnasol o Winetools (http://www.von-thadden.de/Joachim/WineTools/)

d) Fersiwn Windows o ddemo Cysgliad: http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/cymraeg/demo_meddalwedd.php

Cam 2: Gosod y pecynnau RPM

Bydd angen i chi agor terfynell, gwneud yn siw^r eich bod yn ddefnyddiwr gwraidd, gwneud yn siw^r eich bod yn yr un ffolder ag yng ngham 1, a theipio’r cyfarwyddiadau canlynol i mewn. Fe fydd saib ar ôl rhedeg bob gorchymyn rpm.

Mae’n bosib y bydd yr union rifau fersiwn yn amrywio o system i system; dyma’r hyn sy’n gyfredol ar system Fedora Core 3 ar hyn o bryd (Chwefror 2005):

rpm –ivh wine-20050111-1fc3winehq.i686.rpm

rpm –ivh wxGTK-3.4.2-1.i386.rpm

rpm –ivh xdialog-2.1.1-1.1.fc3.rf.i386.rpm

rpm –ivh winetools-2.1.0-jo.i386.rpm

Cam 3: Gosod winetools

Mae winetools yn cynnig ffordd hawdd i chi osod Wine ar eich system, heb orfod golygu neu greu degau o ffeiliau â llaw. Er mwyn cychwyn winetools, teipiwch:

winetools

mewn terfynell. Fe fydd rhyngwyneb graffigol winetools yn ymddangos. Ar gyfer gosod Cysill, argymhellir eich bod yn gosod y canlynol, o leiaf:

· DCOM98

· Ffont Arial

· Internet Explorer (rhaid gwirio a yw hyn yn hanfodol ar gyfer Cysgliad)

Fe fydd winetools yn llwytho’r pecynnau perthnasol i lawr o safle Microsoft.

Cam 4: Rhedeg rhaglen osod Cysgliad o fewn Wine

Mae winetools wedi creu plygell gudd o’r enw .wine/c o fewn eich ffolder cartref. Dyma ble bydd yr holl ffeiliau y gallwch chi eu rhedeg o fewn Wine. Copïwch ddemo Cysgliad (CysgliadDemo.zip) i mewn i’r ffolder .wine/c/temp, ac yna teipiwch y canlynol mewn terfynell:

unzip CysgliadDemo.zip

wine ./Setup.exe

Mi ddylai fersiwn demo Cysgliad sefydlu ei hun yn y modd arferol. Mi ddylai eiconau Cysill 3 a Cysgeir ymddangos ar y penbwrdd – er efallai na fydd y logos cywir yn ymddangos uwchlaw’r testun.

(Cam opsiynol)

Os fyddwch chi am redeg Cysgliad neu Cysgeir o’r llinell orchymyn, crëwch sgriptiau perthnasol yn eich ffolder ~/bin (h.y. y ffolder bin sydd un lefel oddi tan eich ffolder cartref). Mae esiamplau yno’n barod ar gyfer rhaglenni eraill.

Cam 5: Rhedeg Cysgliad!

Mi ddylai’r cyfan weithio nawr. Nid yw’r holl fotymau'r ffenestri y maint cywir efallai, ac ni fydd y bar Word yn bodoli, ond mae posib gwneud popeth y gallech ei wneud o fewn Windows. Mwynhewch ddefnyddio Cysgliad ar Linux!</p

 

 

 

 

I