

Cysgliad
Casgliad o raglenni yw Cysgliad. Mae’n cynnwys Cysill 3, Cysgeir a Thesawrws. Mae Cysgliad yn gweithio gyda Microsoft Office ac OpenOffice.org yn ogystal a rhai rhaglenni eraill drwy gyfrwng 'bysell boeth'. Am fanylion am sut i wneud hynny ewch i safle gwybodaeth Cysgliad. Ewch i waelod y dudalen i ddarllen am adnoddau eraill y Ganolfan. Mae Cysgliad Windows i'w gael mewn siopau neu gan Ganolfan Bedwyr am tua £55. Mae Cysgliad i'r Mac ar gael drwy safle gwe Cysgliad
Cysill 3
Rhaglen gwirio gramadeg. Mae'n gwirio camsillafiadau, cam dreigliadau a gwallau gramadeg. Mae hefyd yn gallu dysgu geiriau a ffurfiau newydd.

Mae Cysill3 yn gallu gweithio o fewn Microsoft Office ac OpenOffice.org. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar safle Canolfan Bedwyr ar sut mae ei osod.
Os yw To-Bach, Cwmni Draig wedi ei osod ar eich cyfrifiadur bydd angen newid manylion y Fysell Boeth gan fod yna wrthdaro. Mae'n hawdd gwneud hynny. Ewch i Dangos > Dewisiadau > Bysellau Brys a newid yr Ctrl+Alt+w i Ctrl+Alt+g.
Pan fyddwch mewn rhaglen ac angen gwirio eich Cymraeg, agorwch Cysill, amlygu eich testun, pwyso Ctrl+Alt+w a bydd y testun yn cael ei anfon i Cysill yn barod i'w wirio. Ar ôl ei wirio bydd y testun yn cael ei anfon yn ôl i'ch rhaglen. Da!
Mae'n gweithio i mi yn Abiword, OmegaT, Dreamweaver ac Opera.
Rhaglen geiriadur sy'n gynnyrch nifer o eiriaduron termau yn ogystal â'r geiriadur Cysill gwreiddiol.

Thesawrws
Mae'r Thesawrws yn gweithio i mewn Cysill3 drwy glicio ar Dangos a dewis Thesawrws neu bwyso F6. Teipiwch air i'r maes ar y chwith a daw gair cyfystyrol yn y maes i'r dde.
Mae Canolfan Bedwyr hefyd yn darparu adnoddau eraill megis:
Gwirydd sillafu Microsoft Office XP ac OpenOffice.org
Rhaglen Gloywi Cymraeg Cymarfer
Geiriadur Termau Technoleg ar y cyd gyda Bwrdd yr Iaith
Rhestrau manylion Enwau Llefydd y Ganolfan Ymchwil Enwau Llefydd
Rhedeg Cysill yn Linux
Mae Rhys Jones wedi dangos bod modd ei defnyddio Cysill yn Linux hefyd.