croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

Aspell

Fformat geiriadur ar gyfer rhaglenni cod agored yw Aspell. Cafodd y pecyn geiriadur aspell Cymraeg ei greu gan Jim Killock, Hebffinia a Thiery Vighnaud ar sail geirfa sillafydd Mark Nodine.

Mae'r pecyn i'w gael o safle Aspell a manylion i'w cael yma.

Yn wahanol i Windows mae Linux yn medru cynnig rhyngwynebau amrywiol i ddefnyddwyr. Ar hyn o bryd y ddau brif ryngwyneb yw KDE a Gnome ac mae'r rhain i'w cael yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Linux. Mae'r gwahaniaeth yn tarddu o'r drafodaeth ynglyn ag annibyniaeth y cod ffynhonnell. Roedd yn wreiddiol rhywfaint o god KDE nad oedd yn rhydd--mae wedi cael ei ryddhau erbyn hyn. Parodd hyn i rai unigolion ddod at ei gilydd i greu Gnome fel darn o feddalwedd gwbl rhydd. Mae yna wahaniaeth mewn arddull a golwg ond mae'r ddau yn gweithio oddi ar gnewyllyn Linux, yn cystadlu ac yn cydweithredu i ddarparu rhyngwynebau effeithiol a hawdd eu defnyddio.

Mae gwaith trosi Gnome i'r Gymraeg yn mynd yn ei flaen.

Gwybodaeth i'w gael ar wefan GNOME CY yma
Meddal

Ffeiliau Cymraeg ar fersiwn 7.2 i’w cael gan Mr Coch, Unarddeg.com

.