

Apple Mac
Gan eu bod mor ddel a hawdd eu defnyddio mae'r Apple Mac yn dod yn fwy fwy poblogaidd fel cyfrifiadur personol. Mae ei gefnogwyr yn mwynhau'r dylunio celfydd, yr unoliaeth rhwng rhaglenni, a sefydlogrwydd y system.
Gosod y Gymraeg
Clicio ar yr afal ar y chwith uchaf ac yna ar System Preferences. Yn y ffenestr honno cliciwch 'International' a bydd ffenestr dewisiadau iaithFformat a Dewisleni yn agor. Cliciwch Language. Cliciwch fotwm Edit List, gosod Cymraeg ar frig y rhestr a chau'r ffenestr. Cliciwch ar Format a gwneud yn siwr fod Prydain Fawr yn cael ei ddewis fel Region:
Ar hyn o bryd does dim gymaint o ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg ar y Mac ag sydd ar gyfer Windows a rhai dosbarthiadau o Linux. Gobeithio bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos.
Yn y cyfamser mae'r rhaglenni hyn yn gweithio ar y Mac:
Abiword
Rhaglen hwylus i ysgrifennu llythyron neu adroddiadau.
Y ffordd orau i fynd am dro ar y we
Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau ar MSN
Pori'r we, anfon a derbyn e-byst, cadw cyfeiriadau a chreu tudalennau ar y we, ffiw - cyfan.
Llythyron, adroddiadau, biliau a rhestrau - y cyfan mewn un pecyn cynhwysfawr.
Llythyron, adroddiadau a biliau - y cyfan mewn un pecyn yn arbennig ar gyfer y Mac
Crwydro'r we
Rhaglen cynllunio dogfennau