croeso
rhaglenni
projectau
amdanom
cysylltiadau

aMSN

Llwytho i Lawr aMSN

Mae rhaglenni negesu yn boblogaidd iawn erbyn hyn ac yn ffordd ddifyr i gysylltu â ffrindiau ar y we. Un o’r dewis o raglenni yn defnyddio protocolau diweddaraf MSN yw aMSN ac mae’n gweithio’n yr un ffordd a’r rhaglen arferol. Yr unig beth sy’n wahannol yw ei fod ar gael yn Gymraeg a’i fod ar gael ar gyfer cyfrifiaduron Windows, Mac a Linux.

Rhyngwyneb

Ffenestr Dewisiadau aMSN

Dewisiadau

Mae modd cael gafael ar y rhaglen o safle aMSN ar tyfer gwahanol fathau o gyfrifiaduron. Dewiswch yr un sy'n addas ar gyfer eich cyfrifiadur chi..

Dewis y Gymraeg

Gosodwch y rhaglen ar eich cyfrifiadur ac agor aMSN. Cliciiwch ar y gair Language yn y rhyngwyneb. Dylai Cymraeg/Welsh fod yno a chlicio arno. Clicio Iawn a chau ac ailagor aMSN. Dylai’r Gymraeg fod yn y golwg nawr.

Mwynhewch!